No themes applied yet
Lladd Addolwyr Eilunod
1Wedyn dyma fiʼn clywed Duw yn gweiddiʼn uchel, “Dewch yma, chi syʼn mynd i ddinistrioʼr ddinas! Dewch gydaʼch arfau i wneud eich gwaith!”
2Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf syʼn wynebuʼr gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wediʼi strapio am ei ganol. Dyma nhwʼn dod iʼr deml, a sefyll wrth ymyl yr allor bres.
3Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd aʼr cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dymaʼr ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn carioʼr offer ysgrifennu, 4a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc9:4 farc Hebraeg, taf – llythyren oedd yn cael ei hysgrifennu ar ffurf croes mewn hen lawysgrifen Hebraeg. ar dalcen pawb syʼn galaruʼn drist am yr holl bethau ffiaidd syʼn digwydd yma.”
5Wedyn clywais eʼn dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! 6Lladdwch nhw i gyd – yr hen aʼr ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.”
Felly dyma nhwʼn dechrau gydaʼr arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml. 7“Gwnewch y deml yn lle sydd wediʼi lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwyʼr ddinas i gyd.”
8Pan aethon nhw allan iʼr ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fiʼn mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïoʼn uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt tiʼn mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” 9A dyma feʼn ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwyʼr wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Maeʼr ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’9:9 gw. Salm 94:5-7 10Felly, dw i ddim yn teimloʼn sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw iʼn mynd i daluʼn ôl iddyn nhw am beth maen nhw wediʼi wneud!”
11Wedyn, dymaʼr dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015