No themes applied yet
Mae hi ar ben ar Israel
1Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu mynyddoedd Israel, a proffwydo yn eu herbyn nhw.
3“Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae eʼn ddweud wrth y mynyddoedd aʼr bryniau, y ceunentydd aʼr dyffrynnoedd: Dw iʼn anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrioʼch allorau paganaidd lleol chi. 4Fydd yr allorauʼn ddim byd ond rwbel, aʼr llestri i losgi arogldarth wediʼu maluʼn ddarnau. Bydd pobl yn syrthioʼn farw o flaen eich eilunod da i ddim. 5Bydd cyrff meirw yn gorwedd oʼu blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau.6:5 Lefiticus 26:30 6Fydd dim dianc! Bydd eich trefiʼn cael eu dinistrioʼn llwyr, aʼr allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wediʼu malu aʼu bwrw i lawr, aʼr llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd oʼch gwaith llaw chi ar ôl! 7Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chiʼn gwybod wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD.
8“‘Ond bydda iʼn gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheinyʼn ffoaduriaid wediʼu gyrru ar chwâl drwyʼr gwledydd. 9A byddan nhwʼn cofio amdana i yno! Byddan nhwʼn sylweddoli sut roedden nhwʼn torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd. 10Byddan nhwʼn deall mai fi ydyʼr ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’”
11Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:
“Dangos mor ddig wyt ti drwy ysgwyd dy ddwrn6:11 ysgwyd dy ddwrn Hebraeg, “curo dy ddwylo”, oedd yn arwydd eich bod wedi gwylltio. a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wediʼu gwneud. Byddan nhwʼn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.” 12Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai syʼn bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai syʼn agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda iʼn tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! 13Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iʼw heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod aʼr allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhwʼn deall wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD! 14Dw iʼn mynd iʼw taro nhwʼn galed. Fydd eu tir nhw yn ddim byd ond anialwch diffaith, yr holl ffordd oʼr diffeithwch yn y de i Ribla6:14 Ribla Hebraeg, Dibla. Roedd tref Ribla ar lan afon Orontes yn ardal Chamath, sef gogledd Libanus (2 Brenhinoedd 23:33). Roedd Chamath ar ffin ogleddol Israel (Eseciel 47:14). yn y gogledd. Byddan nhwʼn deall wedyn mai fi ydyʼr ARGLWYDD!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015