No themes applied yet
Torriʼr Goeden Gedrwydd
1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cyntaʼr trydydd mis.31:1 diwrnod cyntaf y trydydd mis Mehefin 21, 587 CC maeʼn debyg. A dyma fiʼn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 2“Ddyn, dywed wrth y Pharo,31:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC. brenin yr Aifft, aʼi bobl i gyd:
‘Oes rhywbeth syʼn cymharu â dy fawredd di?
3Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,
aʼi changhennau hardd fel cysgod y goedwig.
Roedd yn aruthrol dal, aʼi brigau uchaf yn y cymylau.
4Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,
aʼr ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.
Roedd nentydd yn llifo oʼi chwmpas;
a sianeli dŵr yn dyfrioʼr coed i gyd.
5Ond roedd y goeden hon yn dalach
naʼr coed oʼi chwmpas i gyd.
Canghennau mawr a brigau hir,
aʼi gwreiddiauʼn lledu at y dŵr.
6Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,
aʼr anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.
Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.
7Roedd yn rhyfeddol o hardd gydaʼi changhennau hir,
aʼi gwreiddiauʼn ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr.
8Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi.
Doedd canghennauʼr coed pinwydd ddim byd tebyg;
aʼr coed planwydd yn ddim oʼu cymharu â hi.
Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!
9Fi wnaeth hiʼn hardd gydaʼi holl ganghennau.
Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni.
10“‘Felly, dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gydaʼi brigau uchaf yn y cymylau, 11rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, iʼw chosbi am ei drygioni. Dw i wediʼi thaflu hi i ffwrdd. 12Mae byddin estron y wlad fwya creulon wediʼi thorri i lawr aʼi gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennauʼn gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd aʼr ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. 13Maeʼr adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, aʼr anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.
14“‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhwʼn ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.
15“‘Dyma maeʼr ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr iʼr bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fiʼn dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud iʼr coed eraill i gyd wywo. 16Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdaniʼn syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd aʼr gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. 17Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wediʼu lladd âʼr cleddyf.
18“‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithauʼn cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddiʼn byw gydaʼr paganiaid eraill gafodd eu lladd âʼr cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd iʼr Pharo aʼi fyddin enfawr,” meddaiʼr Meistr, yr ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015