No themes applied yet
Gwneud yr Arch
(Exodus 25:10-22)
1Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hiʼn 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 2Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn aʼr tu allan), a gosod border aur oʼi chwmpas iʼw haddurno. 3Yna gwneud pedwar cylch aur, aʼu gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr. 4Yna gwneud polion o goed acasia wediʼu gorchuddio gydag aur, 5a rhoiʼr polion drwyʼr cylchoedd bob ochr iʼr Arch, iʼw defnyddio iʼw chario hi.
6Wedyn dyma feʼn gwneud caead o aur pur iʼr Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 7Yna gwneud dau gerwb o aur wediʼi guro (gwaith morthwyl) – un bob pen iʼr caead, 8yn un darn gydaʼr caead ei hun. 9Roedd adenydd y cerwbiaid ar led ac yn cysgodi caead yr Arch. Roedd y cerwbiaid yn wynebuʼi gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
Bwrdd y bara sydd iʼw gyflwyno i Dduw
10Wedyn dyma feʼn gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 11Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur oʼi gwmpas iʼw addurno. 12Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch oʼi gwmpas – hwnnw hefyd wediʼi addurno yr un fath âʼr border. 13Yna gwnaeth bedwar cylch aur, aʼu gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle maeʼr coesau, 14wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoiʼr polion drwyddyn nhw i garioʼr bwrdd. 15Yna gwnaeth y polion o goed acasia aʼu gorchuddio nhw gydag aur. 16Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a phowlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.
Gwneud y stand i ddal y lampau – y Menora
(Exodus 25:31-40)
17Yna dyma feʼn gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wediʼi guro. Maeʼr cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, aʼr cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 18Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrauʼr menora, tair bob ochr. 19Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a phetalau. 20Ac ar brif goes y menora, roedd pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. 21Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 22Roedd y cwbl wediʼi wneud o un darn o aur pur wediʼi guro – gwaith morthwyl. 23Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau aʼi phadellau o aur pur. 24Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora aʼr offer oedd gyda hi i gyd.
Gwneud yr allor i losgi arogldarth
(Exodus 30:1-5)
25Yna dyma feʼn gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gydaʼr allor ei hun. 26Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau aʼr cyrn. A gosod border aur oʼi chwmpas iʼw haddurno. 27Rhoddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn âʼi gilydd o dan y border, i roiʼr polion drwyddyn nhw i garioʼr allor. 28Yna gwnaeth y polion o goed acasia, aʼu gorchuddio nhw gydag aur.
Gwneud yr olew eneinio aʼr arogldarth
(Exodus 30:22-38)
29Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig aʼr arogldarth persawrus, cymysgedd gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015