No themes applied yet
Duw yn dod i lawr ar Fynydd Sinai
1Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai. 2Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd. 3Yna dyma Moses yn dringo i fynyʼr mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dymaʼr ARGLWYDD yn galw arno oʼr mynydd, “Dwed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel: 4‘Dych chi wedi gweld beth wnes i iʼr Eifftiaid. Dw i wediʼch cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma. 5Nawr, os gwrandwch chi arna i a chadw amodauʼr ymrwymiad dw iʼn ei wneud gyda chi, byddwch chiʼn drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd biauʼr ddaear gyfan; 6a byddwch chiʼn offeiriaid yn gwasanaethuʼr Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dynaʼr neges rwyt ti iʼw rhoi i bobl Israel.”
7Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wediʼi ddweud. 8Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn niʼn gwneud popeth maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd âʼu hateb yn ôl iʼr ARGLWYDD. 9A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw iʼn mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn iʼr bobl glywed pan dw iʼn siarad gyda ti. Byddan nhwʼn dy drystio di wedyn.”
Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl. 10Yna dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i baratoi y bobl. Heddiw ac yfory dw i eisiau i ti eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad. 11Gwnaʼn siŵr eu bod nhwʼn barod ar gyfer y diwrnod wedyn. Dyna pryd fydd y bobl i gyd yn fy ngweld i, yr ARGLWYDD, yn dod i lawr ar Fynydd Sinai. 12Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth. 13A does neb i gyffwrdd y person neuʼr anifail syʼn gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi iʼr corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringoʼr mynydd.”
14Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad, 15Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”
16Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd.19:16 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn. 17Dyma Moses yn arwain y bobl allan oʼr gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhwʼn sefyll wrth droed y mynydd. 18Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu drwyddo. 19Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwyʼr adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.
20Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny. 21Dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddioʼr bobl i beidio croesiʼr ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhwʼn marw. 22Rhaid iʼr offeiriaid, syʼn mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag iʼr ARGLWYDD eu taro nhwʼn sydyn.” 23Atebodd Moses, “Dydyʼr bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wediʼn rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, iʼw gadw ar wahân.’” 24Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a thyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael iʼr offeiriaid naʼr bobl groesiʼr ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhwʼn sydyn.” 25Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015