No themes applied yet
1Mae pryfed marwʼn gwneud i bersawr ddrewi,
ac mae ychydig ffolineb yn gallu troiʼr fantol yn erbyn doethineb mawr.
2Mae gogwydd y doeth at y da,
ond maeʼr ffŵl yn dewis y drwg.
3Maeʼr ffordd maeʼr ffŵl yn ymddwyn
yn dangos i bawb ei fod yn dwpsyn!
4Pan maeʼr llywodraethwr wedi gwylltio gyda ti, paid symud;
wrth i ti beidio cynhyrfu bydd ei dymer eʼn tawelu.
5Dyma beth ofnadwy arall dw i wediʼi weld –
camgymeriad mae llywodraethwr yn gallu ei wneud:
6Ffyliaid yn cael eu gosod mewn safle o awdurdod,
a phobl fonheddig yn cael eu hunain ar y gwaelod.
7Dw i wedi gweld caethweision ar gefn ceffylau
a thywysogion yn cerdded ar droed fel gweision.
8Gall rhywun syʼn cloddio twll syrthio i mewn iddo,
aʼr un syʼn torri drwy wal gerrig gael ei frathu gan neidr.
9Gall gweithiwr mewn chwarel gael ei anafu gan y meini,
aʼr un syʼn hollti coed gael niwed gan y coed.
10Os nad oes min ar y fwyell, os na chafodd ei hogi,
rhaid i rywun ddefnyddio mwy o egni.
Mae doethineb bob amser yn helpu!
11Os ydy neidr yn brathu cyn cael ei swyno,
maeʼr swynwr wedi methu!
12Mae geiriauʼr doeth yn ennill ffafr,
ond maeʼr ffŵl yn dinistrioʼi hun gydaʼi eiriau.
13Maeʼn dechrau drwy siarad dwli,
ac yn darfod drwy ddweud pethau hollol wallgof.
14Maeʼr ffŵl yn siarad gormod!
Does neb yn gwybod beth syʼn mynd i ddigwydd,
hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy syʼn gallu dweud?
15Mae gwaith yn blinoʼr ffŵl yn lân,
dydy e byth yn gwybod ble mae eʼn mynd.
16Gwaeʼr wlad sydd â brenin plentynnaidd,
aʼi thywysogion yn dechrau gwleddaʼn gynnar yn y bore!
17Ond maeʼn braf ar bobl sydd âʼu brenin yn gallu rheoli,
aʼu tywysogion yn gwybod pryd maeʼn iawn i wledda
– dan reolaeth, ac nid i feddwi!
18Mae to syʼn syrthio yn ganlyniad diogi;
maeʼn gollwng dŵr am fod dim wediʼi wneud.
19Mae bwyd yn cael ei baratoi iʼw fwynhau,
ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon,
ond wrth gwrs arian ydyʼr ateb i bopeth!
20Paid hyd yn oed meddwl beirniaduʼr brenin,
na melltithio pobl gyfoethog yn dy ystafell wely.
Gallai aderyn bach ddweud wrth eraill,
neu ailadrodd beth ddwedaist ti.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015