No themes applied yet
Addewid Duw
1“Dymaʼr gorchmynion, y rheolau aʼr canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi iʼw dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chiʼn mynd. 2Byddwch chiʼn dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadwʼi reolau aʼi orchmynion – chi, eich plant, aʼch wyrion aʼch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a chewch fyw yn hir. 3Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn, bydd pethauʼn mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chiʼn tyfuʼn aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo.
Egwyddor sylfaenol yr ymrwymiad
4“Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydyʼr unig ARGLWYDD. 5Rwyt i garuʼr ARGLWYDD dy Dduw âʼth holl galon, ac âʼth holl enaid ac âʼth holl nerth.
6“Paid anghofioʼr pethau dw iʼn eu gorchymyn i ti heddiw. 7Rwyt iʼw dysguʼn gyson i dy blant, aʼu trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddiʼn mynd i gysgu ac yn codi yn y bore. 8Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen iʼw cofio. 9Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiauʼr dref.
Anogaeth i addoliʼr ARGLWYDD yn unig
10“Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad iʼch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; 11tai yn llawn pethau wnaethoch chi moʼu casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi moʼu plannu. Digon iʼw fwyta! 12Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi iʼr wlad yna, peidiwch anghofioʼr ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chiʼn gaethweision. 13Rhaid i chi barchuʼr ARGLWYDD eich Duw, aʼi wasanaethu e, a defnyddioʼi enw eʼn unig i dyngu llw. 14Peidiwch addoli duwiauʼr bobl oʼch cwmpas chi. 15Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. Bydd eʼn digio gyda chi ac yn eich gyrru chi allan oʼr wlad.
Anogaeth i fod yn ufudd iʼr ARGLWYDD
16“Paid rhoiʼr ARGLWYDD dy Dduw ar brawf, fel y gwnest ti yn Massa.6:16 Exodus 17:1-7 17Gwnewch yn union beth maeʼn ei orchymyn i chi, cadw ei ofynion a dilyn ei ganllawiau. 18-19Gwnewch beth syʼn iawn yn ei olwg, a bydd pethauʼn mynd yn dda i chi. Bydd yr ARGLWYDD yn gyrruʼch gelynion chi allan, a byddwch yn cymryd drosodd y wlad dda wnaeth Duw addo iʼch hynafiaid y byddaiʼn ei rhoi i chi. 20Yna pan fydd eich plant yn gofyn i chi, ‘Pam wnaeth Duw roiʼr gofynion aʼr rheolau aʼr canllawiau yma i ni?’ 21atebwch, ‘Roedden niʼn gaethweision y Pharo yn yr Aifft, ond dymaʼr ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth rhyfeddol i ddod â ni allan oʼr Aifft. 22Gwelon ni eʼn gwneud pethau ofnadwy i wlad yr Aifft ac iʼr Pharo aʼi deulu – gwyrthiau rhyfeddol. 23Gollyngodd niʼn rhydd er mwyn rhoi i niʼr wlad roedd e wediʼi haddo iʼn hynafiaid. 24Dwedodd wrthon ni am gadwʼr rheolau yma i gyd, aʼi barchu e, er mwyn i bethau fynd yn dda i ni, ac iddoʼn cadw niʼn fyw fel mae wedi gwneud hyd heddiw. 25Bydd pethauʼn iawn gyda ni os gwnawn ni gadwʼr gorchmynion yma, fel maeʼr ARGLWYDD wedi gofyn i ni wneud.’
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015