No themes applied yet
Cyflwyniad
1Dyma beth ddwedodd Moses wrth bobl Israel i gyd pan oedden nhw yn yr anialwch yr ochr draw i afon Iorddonen – y tir anial sydd gyferbyn â Swff, rhwng Paran a Toffel, Laban, Chatseroth a Di-sahab.
2Fel arfer maeʼn cymryd un deg un diwrnod i deithio o Fynydd Sinai1:2 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai. i Cadesh-barnea ar draws bryniau Seir. 3Ond roedd pedwar deg mlynedd wedi mynd heibio. Roedd hiʼr diwrnod cyntaf o fis un deg un1:3 mis un deg un Shebat, sef mis un deg un yn y calendr Hebreig, o tua canol Ionawr i ganol Chwefror. y flwyddyn honno pan wnaeth Moses annerch pobl Israel, a dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wediʼi orchymyn iddo.
4Digwyddodd hyn ar ôl iddo ennill y frwydr yn erbyn Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth ac Edrei.1:4 Numeri 21:21-35 5Yr ochr draw i afon Iorddonen, ar dir Moab, dyma Moses yn mynd ati i esbonio cyfarwyddiadau Duw iddyn nhw:
Anerchiad cyntaf Moses
6“Pan oedden ni wrth Fynydd Sinai,1:6 Mynydd Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai. dymaʼr ARGLWYDD ein Duw yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi wedi aros wrth y mynydd yma ddigon hir. 7Maeʼn bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniauʼr Amoriaid, aʼr ardaloedd cyfagos – y tir anial, y bryniau, yr iseldir iʼr gorllewin, y Negef aʼr arfordir – sef gwlad Canaan i gyd, ac o Libanus yr holl ffordd i afon Ewffrates fawr. 8Maeʼr tir yma i gyd i chi. Dymaʼr tir wnes i addo ei roi iʼch hynafiaid chi – Abraham, Isaac a Jacob. Ewch, aʼi gymryd drosodd.’
Moses yn penodi arweinwyr i farnu achosion
(Exodus 18:13-27)
9“Dynaʼr adeg hefyd pan ddwedais wrthoch chi, ‘Alla i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun – maeʼn ormod o faich. 10Maeʼr ARGLWYDD wedi gwneud iʼch niferoedd chi dyfu, a bellach mae yna gymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn yr awyr! 11A boed iʼr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddal ati iʼch lluosi chi fil gwaith drosodd eto, aʼch bendithio chi fel gwnaeth e addo gwneud! 12Ond sut alla i ddelio gydaʼch holl broblemau chi, a goddeʼch cwynion chi i gyd? 13Dewiswch ddynion doeth, deallus, o bob llwyth, i mi eu comisiynu nhwʼn arweinwyr arnoch chi.’ 14A dyma chiʼn cytuno ei fod yn syniad da. 15Felly dyma fiʼn cymryd y dynion doeth, deallus yma, aʼu gwneud nhwʼn arweinwyr y llwythau – yn swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant, a deg o bobl.
16“Cafodd rhai eraill eu penodiʼn farnwyr, a dyma fiʼn eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delioʼn deg gydaʼr achosion fyddaiʼn codi rhwng pobl – nid yn unig rhwng pobl Israel aʼi gilydd, ond hefyd rhwng pobl Israel aʼr rhai oʼr tu allan oedd yn byw gyda nhw. 17Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond i wrando ar bawb, beth bynnag foʼi statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw syʼn gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
18“Rôn i wedi dweud wrthoch chi am bopeth roedd disgwyl i chi ei wneud.
Ysbiwyr yn cael eu hanfon o Cadesh-barnea
19“Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma niʼn gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwyʼr anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniauʼr Amoriaid. A dyma niʼn cyrraedd Cadesh-barnea. 20Ac yno dwedais wrthoch chi, ‘Dŷn ni wedi cyrraedd y bryniau lle maeʼr Amoriaid yn byw. Maeʼr ARGLWYDD yn mynd i roiʼr tir yma i ni nawr. 21Edrychwch, maeʼr tir yna i chi ei gymryd. Ewch, aʼi gymryd, fel maeʼr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na phanicio.’
22“Ond daethoch ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf? Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’
23“Rôn iʼn meddwl ei fod yn syniad da, felly dyma fiʼn anfon un deg dau o ddynion oʼn blaenau ni, un o bob llwyth. 24Aethon nhw drosodd iʼr bryniau, a chyrraedd Wadi Eshcol.1:24 Wadi Eshcol Sychnant oedd yn enwog am ei gwinllannoedd. Ar ôl edrych dros y wlad, 25dyma nhwʼn dod yn ôl gyda pheth o gynnyrch y tir. Roedden nhwʼn dweud, ‘Maeʼr tir maeʼr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni yn dir da!’
26“Ond dyma chiʼn gwrthod mynd yn eich blaenau. Yn lle hynny dyma chiʼn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, 27aros yn eich pebyll, a dechrau cwyno ymhlith eich gilydd, a dweud pethau fel, ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan oʼr Aifft am ei fod yn ein casáu ni, ac er mwyn i ni gael ein lladd gan yr Amoriaid! 28I ble awn ni? Maeʼr dynion aeth i chwilioʼr tir wediʼn gwneud niʼn hollol ddigalon wrth sôn am bobl syʼn dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codiʼn uchel iʼr awyr. Ac yn waeth na hynny, maen nhwʼn dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno – disgynyddion Anac.’
29“Gwnes i drio dweud wrthoch chi, ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn! 30Maeʼr ARGLWYDD eich Duw yn mynd oʼch blaenau chi! Bydd eʼn ymladd drosoch chi, yn union fel y gwelsoch chi eʼn gwneud yn yr Aifft! 31Meddyliwch sut wnaeth e ofalu amdanoch chi yn yr anialwch! Mae wediʼch cario chi yr holl ffordd yma, fel mae dyn yn carioʼi fab!’
32“Ond doedd dim ots beth roeddwn iʼn ddweud, roeddech chiʼn dal i wrthod trystioʼr ARGLWYDD eich Duw, 33yr un oedd yn mynd oʼch blaen chi, ac yn dod o hyd i leoedd i chi godi gwersyll. Roedd yn eich arwain chi mewn colofn dân yn y nos a cholofn niwl yn y dydd, ac yn dangos i chi pa ffordd i fynd.
Yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel
(Numeri 14:20-45)
34“Pan glywodd yr ARGLWYDD beth roeddech chiʼn ei ddweud, roedd wedi digio go iawn hefo chi, a dyma feʼn addo ar lw: 35‘Fydd neb oʼr genhedlaeth yma yn cael gweld y tir da wnes i addo ei roi iʼch hynafiaid chi! 36Caleb fab Jeffwnne fydd yr unig eithriad. Bydd eʼn cael mynd yno, a bydda iʼn rhoi iddo fe aʼi ddisgynyddion y tir y buodd eʼn cerdded arno, am ei fod wedi bod yn gwbl ffyddlon i mi.’
37“Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio hefo fi hefyd oʼch achos chi. Dwedodd, ‘Fyddi di ddim yn cael mynd yno chwaith. 38Ond bydd Josua fab Nwn, dy was di, yn cael mynd. Dw i eisiau i ti ei annog e. Fe ydyʼr un fydd yn arwain Israel i gymryd y tir. 39Ond bydd y plant bach hefyd, y rhai oedd gynnoch chi ofn iddyn nhw gael eu dal, yn cael mynd – y rhai syʼn rhy ifanc eto i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Bydda iʼn rhoiʼr tir iddyn nhw, a nhw fydd piau e. 40Ond nawr rhaid i chi droiʼn ôl, a mynd drwyʼr anialwch yn ôl i gyfeiriad y Môr Coch.’1:40 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
41“Roeddech chiʼn cyfaddef wedyn eich bod ar fai, a dyma chiʼn dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’
“A dyma chi i gyd yn gwisgoʼch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau. 42Ond dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dwed wrthyn nhw am beidio mynd i ymladd. Dw i ddim gyda nhw. Byddan nhwʼn cael eu curo gan eu gelynion.’
43“Rôn i wedi dweud wrthoch chi, ond roeddech chiʼn gwrthod gwrando. Dyma chiʼn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD eto. I ffwrdd â chi, yn llawn ohonoch chiʼch hunain. 44Dymaʼr Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan fel haid o wenyn i ymladd gyda chi, aʼch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhwʼn eich taro chi i lawr yr holl ffordd o dir Seir i dref Horma. 45Pan gyrhaeddoch chiʼn ôl, dyma chiʼn mynd i ofyn iʼr ARGLWYDD am help, ond wnaeth e ddim cymryd sylw ohonoch chi. 46Felly dyma chiʼn aros yn Cadesh am amser hir iawn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015