No themes applied yet
Duw yn achub Shadrach, Meshach, ac Abednego
Y gorchymyn i addoliʼr Ddelw Aur
1Dymaʼr brenin Nebwchadnesar yn gwneud delw aur oedd yn 27 metr o uchder ac yn dri metr o led. Cafodd y cerflun ei osod ar wastadedd Dwra yn nhalaith Babilon. 2Yna anfonodd orchymyn allan yn galw penaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion aʼr llywodraethwyr i gyd at ei gilydd i seremoni dadorchuddioʼr ddelw; hefyd rheolwyr a chomisiynwyr, cynghorwyr y brenin, trysoryddion, barnwyr, ynadon, a phawb arall o bwys. 3A dyma nhw i gyd yn dod iʼr seremoni. Roedd pawb yno, yn sefyll o flaen y ddelw oedd Nebwchadnesar wediʼi chodi.
4Yna dyma swyddog yn cyhoeddiʼn uchel, “Dyma orchymyn y brenin i bawb sydd yma, o bob gwlad ac iaith: 5Pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau – y corn, ffliwt, telyn, trigon,3:5 trigon Offeryn siap triongl gyda phedwar neu fwy o dannau arno – rhyw fath o delyn law. crythau, pibau aʼr offerynnau eraill – mae pawb i blygu i lawr ac addoliʼr ddelw aur maeʼr brenin Nebwchadnesar wediʼi chodi. 6Bydd pwy bynnag syʼn gwrthod plygu ac addoliʼr ddelw, yn cael eu taflu ar unwaith i mewn i ffwrnais o dân.3:6 ffwrnais o dân Roedd dienyddio rhywun drwy ei losgi yn rhywbeth oedd yn digwydd yn Babilon – gw. Jeremeia 29:22.” 7Felly yr eiliad y clywodd y bobl yr offerynnau i gyd, dyma pawb, o bob gwlad ac iaith yn plygu i lawr ac yn addoliʼr ddelw aur oedd Nebwchadnesar wediʼi chodi. 8Ond dyma rai oʼr dynion doeth yn mynd at y brenin, a dechrau lladd ar yr Iddewon. 9“O frenin! Boed i chi fyw am byth!” medden nhw. 10“Roeddech chi wedi gorchymyn fod pawb i blygu i lawr ac addoliʼr ddelw aur pan oedden nhwʼn clywed y gerddoriaeth yn dechrau. 11A bod pwy bynnag syʼn gwrthod plygu ac addoliʼr ddelw, i gael eu taflu i mewn i ffwrnais o dân. 12Ond mae yna Iddewon yma – Shadrach, Meshach ac Abednego – gafodd eu penodi yn rheolwyr talaith Babilon gynnoch chi. Maen nhw wedi gwrthod gwrando, eich mawrhydi. Dŷn nhw ddim yn addoli eich duwiau chi, ac maen nhwʼn gwrthod addoli y ddelw aur dych chi wediʼi chodi.”
13Dyma Nebwchadnesar yn gwylltioʼn lân, ac yn gorchymyn dod â Shadrach, Meshach ac Abednego oʼi flaen. Felly dyma nhwʼn dod âʼr tri o flaen y brenin. 14A dyma Nebwchadnesar yn gofyn iddyn nhw, “Shadrach, Meshach ac Abednego. Ydy eʼn wir eich bod chi ddim yn addoli fy nuwiau i, aʼch bod chi wedi gwrthod addoliʼr ddelw aur dw i wediʼi chodi? 15Dw iʼn fodlon rhoi un cyfle arall i chi. Pan fyddwch chiʼn clywed yr offerynnau, os ydych chiʼn barod i blygu i lawr ac addoli y ddelw dw i wediʼi chodi, bydd popeth yn iawn. Ond os byddwch chiʼn gwrthod, byddwch chiʼn cael eich taflu ar unwaith i mewn iʼr ffwrnais o dân. Pa dduw syʼn mynd iʼch achub chi oʼm gafael i wedyn?”
16Ond dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn ateb y brenin, “Does dim pwynt i ni eich ateb chi. 17Os ydyʼr Duw dŷn niʼn ei addoli yn bodoli, bydd eʼn galluʼn hachub ni oʼr ffwrnais dân ac oʼch gafael chi, o frenin. 18Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, naʼr ddelw aur dych chi wediʼi chodi.”
Dedfrydu ffrindiau Daniel i farwolaeth
19Roedd Nebwchadnesar yn lloerig gyda Shadrach, Meshach ac Abednego. Roedd ei wyneb yn dweud y cwbl! Rhoddodd orchymyn fod y ffwrnais i gael ei thanio saith gwaith poethach nag arfer. 20Yna gorchmynnodd i ddynion cryf oʼr fyddin rwymo Shadrach, Meshach ac Abednego aʼu taflu nhw i mewn iʼr ffwrnais. 21A dymaʼr tri yn cael eu rhwymo aʼu taflu iʼr ffwrnais heb hyd yn oed dynnu eu dillad. Roedden nhwʼn dal i wisgoʼr cwbl – clogyn, trowsus, twrban, a phob dilledyn arall. 22Am fod y brenin wedi gorchymyn gwneud y ffwrnais mor eithafol o boeth, dymaʼr fflamauʼn llamu allan oʼr ffwrnais a lladd y milwyr wrth iddyn nhw daflu Shadrach, Meshach ac Abednego iʼr tân.
23Felly dyma Shadrach, Meshach ac Abednego yn syrthio, wediʼu rhwymoʼn dynn, i ganol y tân yn y ffwrnais. 24Ond ynaʼn sydyn dymaʼr Brenin Nebwchadnesar yn neidio ar ei draed mewn braw. “Onid tri dyn wnaethon ni eu rhwymo aʼu taflu iʼr tân?” meddai wrth ei gynghorwyr. “Ie, yn sicr,” medden nhw. 25“Ond edrychwch!” gwaeddodd y brenin. “Dw iʼn gweld pedwar o bobl yn cerdded yn rhydd yng nghanol y tân. A dŷn nhw ddim wedi cael unrhyw niwed! Ac maeʼr pedwerydd yn edrych fel petaiʼn fod dwyfol.”3:25 yn fod dwyfol Aramaeg, “yn fab iʼr duwiau”, syʼn idiom am un oʼr bodau oedd yn cael eu hystyried yn ‘dduwiau’ gan y bobl hynny oedd yn credu mewn aml-dduwiaeth.
Rhyddhau y tri, a rhoi swyddi uchel iddyn nhw
26Dyma Nebwchadnesar yn mynd mor agos ag y gallai at ddrws y ffwrnais, a gweiddi: “Shadrach, Meshach, Abednego, gweision y Duw Goruchaf. Dewch allan! Dewch yma!” A dymaʼr tri yn cerdded allan oʼr tân. 27Dyma benaethiaid y taleithiau, yr uchel-swyddogion, y llywodraethwyr a chynghorwyr y brenin i gyd yn casglu oʼu cwmpas nhw. Doedd y tân ddim wediʼu llosgi nhw o gwbl, dim un blewyn. Doedd dim niwed iʼw dillad. Doedd dim hyd yn oed arogl llosgi arnyn nhw!
28Ac meddai Nebwchadnesar, “Moliant i Dduw Shadrach, Meshach ac Abednego! Anfonodd angel i achub ei weision oedd yn trystio ynddo. Roedden nhwʼn fodlon herio gorchymyn y brenin, a hyd yn oed marw cyn addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain. 29Felly dw i am ei wneud yn ddeddf fod neb o unrhyw wlad neu iaith i ddweud unrhyw beth yn erbyn Duw Shadrach, Meshach ac Abednego. Os gwnân nhw, bydd eu cyrff yn cael eu rhwygoʼn ddarnau, aʼu cartrefi yn cael eu troiʼn domen sbwriel! Achos does yr un Duw arall yn gallu achub fel yma.”
30A dymaʼr brenin yn rhoi dyrchafiad a swyddi gwell fyth yn nhalaith Babilon i Shadrach, Meshach ac Abednego.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015