No themes applied yet
1“Frodyr ac arweinwyr parchus ein cenedl, ga i ddweud gair i amddiffyn fy hun?”
2Pan glywon nhw Paul yn siarad Hebraeg dyma nhwʼn mynd yn hollol dawel. Yna meddai Paul wrthyn nhw, 3“Iddew ydw i, wedi fy ngeni yn Tarsus yn Cilicia, ond ces i fy magu yma yn Jerwsalem. Bues iʼn astudio Cyfraith ein hynafiaid yn fanwl dan yr athro Gamaliel. Rôn iʼn frwd iawn dros bethau Duw, yn union fel dych chi yma heddiw. 4Bues iʼn erlid y rhai oedd yn dilyn y Ffordd Gristnogol, ac yn arestio dynion a merched, aʼu taflu nhw iʼr carchar. 5Gall yr archoffeiriad ac aelodau Cyngor y Sanhedrin dystio iʼr ffaith fod hyn i gyd yn wir, am mai nhw roddodd lythyrau i mi iʼw cyflwyno i arweinwyr ein pobl yn Damascus. Rôn iʼn mynd yno i arestioʼr Cristnogion a dod â nhw yn ôl yn gaeth i Jerwsalem iʼw cosbi nhw.
Dweud hanes ei dröedigaeth
(Actau 9:1-19; 26:12-18)
6“Roedd hi tua chanol dydd, ac roeddwn i bron â chyrraedd Damascus, ac yn sydyn dyma rhyw olau llachar oʼr nefoedd yn fflachio oʼm cwmpas i. 7Syrthiais ar lawr, a chlywed llais yn dweud wrtho i, ‘Saul! Saul! Pam wyt tiʼn fy erlid i?’
8“Gofynnais, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’
“‘Iesu o Nasareth ydw i,’ meddaiʼr llais, ‘sef yr un rwyt tiʼn ei erlid.’ 9Roedd y rhai oedd gyda mi yn gweld y golau, ond ddim yn deall y llais oedd yn siarad â mi.
10“Gofynnais iddo, ‘Beth wna i, Arglwydd?’ A dymaʼr Arglwydd yn ateb, ‘Cod ar dy draed, a dos i Damascus. Yno cei di wybod popeth rwyt ti i fod iʼw wneud.’ 11Rôn i wedi cael fy nallu gan y golau disglair, ac roedd rhaid i mi gael fy arwain gerfydd fy llaw i Damascus.
12“Daeth dyn oʼr enw Ananias i ngweld i. Dyn duwiol iawn, yn cadw Cyfraith Moses yn ofalus ac yn ddyn roedd yr Iddewon yno yn ei barchuʼn fawr. 13Safodd wrth fy ymyl a dweud. ‘Saul, frawd. Derbyn dy olwg yn ôl!’ Ac oʼr eiliad honno rôn iʼn gallu gweld eto.
14“Wedyn dwedodd Ananias wrtho i: ‘Mae Duw ein cyndeidiau ni wedi dy ddewis di i wybod beth mae e eisiau, i weld Iesu, yr Un Cyfiawn, a chlywed beth sydd ganddo iʼw ddweud. 15Byddi diʼn mynd i ddweud wrth bawb beth rwyt ti wediʼi weld aʼi glywed. 16Felly, pam ddylet ti oedi? Cod ar dy draed i ti gael dy fedyddio a golchi dy bechodau i ffwrdd wrth alw arno i dy achub di.’
17“Pan ddes i yn ôl i Jerwsalem roeddwn iʼn gweddïo yn y Deml pan ges i weledigaeth – 18yr Arglwydd yn siarad â mi, ac yn dweud ‘Brysia! Rhaid i ti adael Jerwsalem ar unwaith, achos wnân nhw ddim credu beth fyddi diʼn ei ddweud amdana i.’
19“‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘maeʼr bobl ymaʼn gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog iʼr llall yn carcharuʼr bobl syʼn credu ynot ti, ac yn eu curo nhw. 20Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i ynoʼn cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’
21“Ond dymaʼr Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw iʼn mynd i dy anfon diʼn bell i ffwrdd, at bobl o genhedloedd eraill.’”
Paul y dinesydd Rhufeinig
22Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhwʼn dechrau gweiddiʼn uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!”
23Dyma nhwʼn dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch iʼr awyr. 24Felly dymaʼr capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn iʼr barics i gael ei groesholi gydaʼr chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn. 25Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led iʼw chwipio, dyma Paul yn gofyn iʼr swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”
26Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chiʼn ei wneud?” meddai wrtho. “Maeʼr dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”
27Felly dymaʼr capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt tiʼn ddinesydd Rhufeinig?”
“Ydw,” meddai Paul.
28“Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddaiʼr capten.
“Ces i fy ngeniʼn ddinesydd,” meddai Paul.
29Dymaʼr rhai oedd yn mynd iʼw groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni.
Paul o flaen y Sanhedrin
30Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma feʼn gollwng Paul yn rhydd oʼi gadwyni, a gorchymyn iʼr prif offeiriaid aʼr Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, aʼi osod i sefyll oʼu blaenau.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015