No themes applied yet
Chwshai yn camarwain Absalom
1Yna dyma Achitoffel yn dweud wrth Absalom, “Gad i mi gymryd 12,000 o ddynion, a mynd allan ar ôl Dafydd, heno! 2Bydd e wedi blinoʼn lân ac yn wan erbyn i mi ddal i fyny ag e. Bydda iʼn ei ddychryn, a bydd ei fyddin yn dianc mewn panig. Dim ond y brenin wna i ei ladd. 3Gwna i ddod â gweddill y bobl yn ôl atat ti. Dim ond un dyn sydd angen ei ladd. Fydd neb arall yn cael niwed.”
4Roedd yn swnioʼn gynllun da i Absalom ac arweinwyr Israel i gyd. 5Ond yna dyma Absalom yn dweud, “Dewch â Chwshai yr Arciad yma, i ni weld beth sydd ganddo fe iʼw ddweud.” 6Pan ddaeth Chwshai, dyma Absalom yn dweud wrtho beth oedd cyngor Achitoffel. “Beth ydy dy farn di? Ydy eʼn gyngor da? Ac os ddim, beth wyt tiʼn awgrymu?” 7Dyma Chwshai yn ateb, “Na, dydy cyngor Achitoffel ddim yn dda y tro yma. 8Mae dy dad aʼi ddynion yn filwyr dewr. Tiʼn gwybod hynnyʼn iawn. Maen nhwʼn gallu bod mor filain ag arth wyllt wedi colli ei chenawon! Mae e wedi hen arfer rhyfela. Fyddai e byth yn cysguʼr nos gydaʼi ddynion. 9Maeʼn siŵr ei fod yn cuddio mewn rhyw ogof neu rywle tebyg. Petai eʼn ymosod ar dy ddynion di gyntaf, a rhai ohonyn nhwʼn cael eu lladd, byddaiʼr storiʼn mynd ar led fod byddin Absalom wedi cael crasfa. 10Byddai hyd yn oed y milwyr mwyaf dewr – y rhai syʼn gryfion fel llewod – yn digalonni. Mae pobl Israel i gyd yn gwybod fod dy dad wedi hen arfer rhyfela, a bod y dynion sydd gydag eʼn filwyr profiadol. 11Dyma fy nghyngor i: Casgla ddynion Israel i gyd at ei gilydd, pawb – o Dan yn y gogledd i Beersheba17:11 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir iʼr de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach iʼr Aifft. yn y de (Byddin fydd fel y tywod ar lan y môr, yn amhosib iʼw chyfrif!) A dw iʼn meddwl y dylet ti dy hun eu harwain nhw iʼr frwydr. 12Wedyn, ble bynnag mae e, byddwn niʼn disgyn arno fel gwlith ar y ddaear. Fydd e na neb arall sydd gydag eʼn cael eu gadael yn fyw! 13A hyd yn oed os bydd eʼn llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnuʼr waliau i lawr gyda rhaffau a llusgoʼr dref i lawr iʼr dyffryn. Fydd dim un garreg fechan ar ôl!” 14A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.” A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.
Dafydd yn dianc i Machanaîm17:14 Tref bwysig iʼr dwyrain o afon Iorddonen. Hon oedd canolfan Ish-bosheth pan gafodd ei wneud yn frenin ar ôl ei dad Saul (2 Samuel 2:8-10).
15Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wediʼi ddweud. 16“Anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydauʼr anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesiʼr Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”
17Roedd Jonathan ac Achimaäts (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel.17:17 En-rogel sef, Ffynnon y Pannwr. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd âʼr negeseuon ymlaen iʼr brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.) 18Ond roedd rhyw fachgen ifanc wediʼu gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dymaʼr ddau yn gadael ar frys, ac aethon nhw i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhwʼn dringo i lawr iʼr pydew. 19Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel bod dim iʼw weld.
20Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhwʼn gofyn iʼr wraig, “Ble mae Achimaäts a Jonathan?” A dyma hiʼn ateb, “Maen nhw wedi croesiʼr nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhwʼn mynd yn ôl i Jerwsalem.
21Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaäts a Jonathan yn dringo allan oʼr pydew a mynd i roiʼr neges iʼr Brenin Dafydd. Dyma nhwʼn dweud wrtho am frysio i groesiʼr afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn. 22Felly dyma Dafydd aʼi fyddin yn croesi afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.
23Pan welodd Achitoffel fod ei gyngor wediʼi wrthod, dyma feʼn cyfrwyoʼi asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma feʼn crogi ei hun; a chafodd ei gladdu ym medd y teulu.
24Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesiʼr Iorddonen. 25Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad17:25 Fel rhai llawysgrifau Groeg (cf. 1 Cronicl 2:17); Hebraeg, “Israeliad”. oʼr enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)17:25 Amasa … Serwia, mam Joab Roedd Abigail a Serwia (mam Joab) yn chwiorydd, a Dafydd yn hanner brawd iddyn nhw (yr un fam, ond tad gwahanol). Felly roedd Amasa yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17). 26Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.
27Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash17:27 Shobi fab Nachash Maeʼn bosib mai Dafydd wnaeth ei benodi yn frenin yn lle ei frawd Chanŵn ar ôl concro Rabba – 2 Samuel 10:1-3; 12:26-31. o Rabbaʼr Ammoniaid, Machir fab Ammiel17:27 2 Samuel 9:4-5 o Lo-defâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm, 28yn dod â gwlâu, powlenni, a llestri iddo. Dyma nhw hefyd yn dod â bwyd i Dafydd aʼr milwyr oedd gydag e – gwenith, haidd, blawd, grawn wediʼi grasu, ffa, ffacbys, 29mêl, caws colfran o laeth dafad a chaws o laeth buwch. Roedden nhwʼn gwybod y byddai pawb eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig ar ôl bod allan yn yr anialwch.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015