No themes applied yet
Joseia, brenin Jwda
(2 Cronicl 34:1-2,8-11)
1Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a buʼn frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath). 2Roedd yn gwneud beth oedd yn plesioʼr ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
3Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma feʼn anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD. 4Dyma feʼn dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfriʼr arian maeʼr porthorion wediʼi gasglu gan y bobl pan maen nhwʼn dod iʼr deml. 5Wedyn maeʼr arian iʼw roi iʼr rhai syʼn goruchwylioʼr gwaith ar y deml. Ac maeʼr rheiny i daluʼr gweithwyr syʼn gwneud y gwaith atgyweirio – 6sef y seiri coed, adeiladwyr aʼr seiri maen – ac i brynu coed a cherrig wediʼu nadduʼn barod i atgyweirioʼr deml. 7Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl oʼr arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”
Chilceia yn darganfod sgrôl y Gyfraith
(2 Cronicl 34:14-28)
8Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl oʼr Gyfraith yn y deml!” A dyma feʼn rhoiʼr sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen. 9Yna dyma Shaffan yn mynd yn ôl i roi adroddiad iʼr brenin: “Mae dy weision wedi cyfriʼr arian oedd yn y deml, ac wediʼi drosglwyddo iʼr dynion syʼn goruchwylioʼr gwaith ar y deml.” 10Yna meddai, “Mae Chilceiaʼr offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma feʼn ei darllen iʼr brenin.
11Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dymaʼr brenin yn rhwygoʼi ddillad. 12Yna dyma feʼn galw am Chilceiaʼr offeiriad, Achicam fab Shaffan, Achbor fab Michaia, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. 13A dyma feʼn dweud wrthyn nhw, “Ewch i holiʼr ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth maeʼr sgrôl ymaʼn ddweud. Maeʼr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth maeʼr sgrôl ymaʼn ddweud.”
14Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hiʼn wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hiʼn byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd oʼr ddinas. A dyma nhwʼn dweud yr hanes wrthi. 15Yna dyma hiʼn dweud, “Dyma maeʼr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i, 16mod iʼn mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl syʼn byw yma. Bydd yn union fel maeʼr sgrôl mae brenin Jwda wediʼi ddarllen yn dweud. 17Dw i wedi gwylltioʼn lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, aʼm gwylltio i gydaʼr delwau maen nhw wediʼu gwneud.’ 18Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wediʼch anfon chi i holiʼr ARGLWYDD, ‘Dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wediʼi glywed: 19“Am dy fod ti wedi teimlo iʼr byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddioʼr lle yma, ac y byddwn iʼn eu gwneud nhwʼn esiampl o bobl wediʼu melltithio; am i ti rwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,” – yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn. 20“Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma.”’” A dymaʼr dynion yn mynd âʼr neges yn ôl iʼr brenin.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015