No themes applied yet
Elias yn condemnioʼr brenin Ahaseia
1Ar ôl iʼr brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel.
2Tuaʼr un adeg dymaʼr Brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma feʼn anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron,1:2 Ecron Un o bum tref y Philistiaid (gw. 1 Samuel 6:17), oedd tua 40 milltir iʼr de-orllewin o Samaria. os bydda iʼn gwella oʼr anaf yma.” 3Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chiʼn mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron? 4Felly, dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi oʼr gwely yna. Tiʼn mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.
5Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma feʼn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod y ôl?” 6A dyma nhwʼn ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wediʼch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt tiʼn anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi oʼr gwely yna. Tiʼn mynd i farw!”’” 7“Disgrifiwch y dyn i mi,” meddaiʼr brenin. 8A dyma nhwʼn ateb, “Dyn blewog, ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” Meddaiʼr brenin, “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”
9Yna dymaʼr brenin yn anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda hanner cant o ddynion i ddal Elias. Roedd Elias yn eistedd ar ben bryn; a dymaʼr capten yn mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, maeʼr brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” 10Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr oʼr awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dynaʼn union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr oʼr awyr aʼi ladd e aʼi filwyr.
11Felly dymaʼr brenin yn anfon capten gyda hanner cant arall o ddynion i ddal Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Maeʼr brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” 12Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr oʼr awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a lladd y capten aʼi filwyr.
13Yna dymaʼr brenin yn anfon trydydd capten gyda hanner cant o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma feʼn mynd ar ei liniau oʼi flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma. 14Dw iʼn gwybod fod tân wedi dod i lawr oʼr awyr a lladd y ddau gapten cyntaf aʼu dynion. Plîs arbed fy mywyd i!” 15A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.
16Dyma Elias yn dweud wrth y brenin, “Maeʼr ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel iʼw holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi oʼr gwely yna, tiʼn mynd i farw!’” 17A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy Elias.
Doedd ganddo ddim mab, felly dymaʼi frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda.
18Mae gweddill hanes Ahaseia, aʼr cwbl wnaeth e ei gyflawni, iʼw weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015