No themes applied yet
Saul yn trechu byddin Ammon
1Yna dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead.11:1 Jabesh yn Gilead Tref oedd iʼr dwyrain o afon Iorddonen, tua 20 milltir iʼr de o Lyn Galilea (gw. Barnwyr 21). Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down niʼn weision i ti.” 2Atebodd Nachash, “Iawn, gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda iʼn codi cywilydd ar Israel gyfan.” 3Meddai arweinwyr Jabesh wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod iʼn hachub ni, byddwn yn ildio i ti.”
4Cyrhaeddodd y negeswyr Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd; a dymaʼr bobl i gyd yn dechrau crioʼn uchel. 5Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre oʼr caeau gydaʼi ychen. “Be syʼn bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crio?” A dyma nhwʼn dweud wrtho am neges pobl Jabesh. 6Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arnoʼn rymus. Roedd wedi gwylltioʼn lân. 7Dyma feʼn lladd pâr o ychen aʼu torri nhwʼn ddarnau mân, ac anfon negeswyr gydaʼr darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i gyhoeddi fel hyn: “Pwy bynnag syʼn gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd iʼw ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhwʼn dod allan fel un dyn. 8Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda. 9A dyma nhwʼn dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh yn Gilead, “Dwedwch wrth bobl Jabesh, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wediʼch achub.’” Aeth y negeswyr a dweud hynny wrth bobl Jabesh, ac roedden nhw wrth eu boddau. 10Yna dyma nhwʼn dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn niʼn dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”
11Y noson honno11:11 y noson honno Hebraeg, “y diwrnod wedyn”. Roedd diwrnod newydd yn dechrau pan oedd yr haul yn machlud, a sylwer fod yr ymosodiad wedi digwydd cyn iddi wawrio. dyma Saul yn rhannuʼr dynion yn dair mintai. Dyma nhwʼn mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhwʼn taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.
12Yna dymaʼr bobl yn gofyn i Samuel, “Ble maeʼr rhai oedd yn dweud, ‘Pam ddylai Saul fod yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhwʼn haeddu marw!” 13Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Maeʼn ddiwrnod pan maeʼr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”
14“Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydluʼr frenhiniaeth yno eto.” 15Felly dymaʼr bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhwʼn cyflwyno offrymau i gydnabod daioniʼr ARGLWYDD. Roedd Saul a phobl Israel i gyd yn dathluʼn llawen yno.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015