No themes applied yet
Elias yn cyfarfod Obadeia, gwas y Brenin Ahab
1Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw iʼn mynd i anfon glaw ar y tir.” 2Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab.
Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria erbyn hynny. 3Dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoliʼr ARGLWYDD yn ffyddlon. 4Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydiʼr ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi aʼu cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr iʼw yfed.) 5Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd drwyʼr wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadwʼr ceffylau aʼr mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.” 6A dyma nhwʼn rhannuʼr wlad gyfan rhyngddyn nhw. Aeth Ahab i un cyfeiriad a dyma Obadeia yn mynd y ffordd arall.
7Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod iʼw gyfarfod. Dyma Obadeiaʼn nabod Elias, a dyma feʼn plygu ar ei liniau oʼi flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?” 8“Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.” 9Dyma Obadeiaʼn ateb, “Beth dw i wediʼi wneud oʼi le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i? 10Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhwʼn dweud dy fod ti ddim yno, maeʼn gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti. 11A dyma tiʼn dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’ 12Y funud bydda iʼn dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd eʼn fy lladd i! Dw i wedi addoliʼr ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn iʼn fachgen. 13Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydiʼr ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant oʼi broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw a dŵr iʼw yfed. 14A nawr, dyma tiʼn gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd eʼn fy lladd i!” 15Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD hollbwerus yn fyw (y Duw dw iʼn ei wasanaethu), bydda iʼn cyfarfod Ahab heddiw.”
Elias yn cyfarfod y Brenin Ahab
16Felly dyma Obadeiaʼn mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias. 17Pan welodd Ahab Elias dyma feʼn dweud, “Ai ti ydy e go iawn? – yr un syʼn creu helynt i Israel!” 18Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth maeʼr ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal! 19Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth Fynydd Carmel. Tyrd âʼr holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a phedwar cant o broffwydiʼr dduwies Ashera.”
Elias a proffwydi Baal ar Fynydd Carmel
20Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod âʼr proffwydi i gyd at ei gilydd i Fynydd Carmel. 21Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chiʼn mynd i eistedd ar y ffens? Os maiʼr ARGLWYDD ydyʼr Duw go iawn, dilynwch e, ond os Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair. 22Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydyʼr unig un sydd ar ôl o broffwydiʼr ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma. 23Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorriʼn ddarnau, aʼi osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gydaʼr tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano. 24Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Y duw syʼn anfon tân fydd yn dangos mai fe ydyʼr Duw go iawn.” A dymaʼr bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!”
25Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, aʼi baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.” 26Felly dyma nhwʼn cymryd y tarw roedden nhw wediʼi gael, ei baratoi aʼi osod ar yr allor. A dyma nhwʼn galw ar Baal drwyʼr bore, nes oedd hiʼn ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhwʼn dawnsioʼn wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wediʼi chodi. 27Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddiʼn uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod eʼn myfyrio, neu wedi mynd iʼr tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod eʼn cysgu, a bod angen ei ddeffro!” 28A dyma nhwʼn gweiddiʼn uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd. 29Buon nhw wrthiʼn proffwydoʼn wallgof drwyʼr pʼnawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.
30Yna dyma Elias yn galwʼr bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu oʼi gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio. 31Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoiʼr enw Israel iddo). 32A dyma feʼn defnyddioʼr cerrig i godi allor iʼr ARGLWYDD. Yna dyma feʼn cloddio ffos eithaf dwfn18:32 eithaf dwfn Hebraeg, “digon dwfn i ddal dau fesur o had”. o gwmpas yr allor. 33Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torriʼr tarw yn ddarnau aʼi roi ar y coed. 34Yna dyma feʼn dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr â dŵr, aʼi dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma Elias yn dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” a dyma wnaethon nhw. “Ac eto,” meddai, a dyma nhwʼn gwneud y drydedd waith. 35Roedd yr allor yn socian, aʼr dŵr wedi llenwiʼr ffos oʼi chwmpas.
36Pan ddaeth hiʼn amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod iʼn gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i. 37Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn iʼr bobl yma wybod mai ti ydyʼr Duw go iawn, a dy fod tiʼn eu troi nhwʼn ôl atat ti.”
38Ynaʼn sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgiʼr offrwm, y coed, y cerrig aʼr pridd, a hyd yn oed sychuʼr dŵr oedd yn y ffos. 39Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhwʼn syrthio ar eu gliniau aʼu hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydyʼr Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydyʼr Duw go iawn!” 40Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael iʼr un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at afon Cison aʼu lladd nhw i gyd yno.
Elias yn gweddïo am law
41Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.” 42Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, âʼi wyneb ar lawr rhwng ei liniau. 43A dyma feʼn dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dymaʼr gwas yn mynd i edrych, a dweud, “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”. 44Ynaʼr seithfed tro dymaʼr gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi oʼr môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’” 45Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel. 46A dymaʼr ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma feʼn rhwymoʼi wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015