No themes applied yet
Disgynyddion Reuben
1Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma feʼn colli safleʼr mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydyʼr achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni. 2Er bod Jwda wedi dod yn gryfach naʼi frodyr, ac arweinydd wedi codi oʼi ddisgynyddion, roedd safleʼr mab hynaf yn mynd i Joseff.) 3Meibion Reuben (mab hynaf Israel): Chanoch, Palw, Hesron, a Carmi.
4Disgynyddion Joel: Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei, 5Micha, Reaia, Baal, 6i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben. 7Dymaʼi frodyr wediʼu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol: Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia, 8yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, aʼu tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon. 9Iʼr dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid iʼw cadw yn Gilead. 10Pan oedd Saul yn frenin dyma nhwʼn ymosod ar yr Hagriaid aʼu trechu nhw. Dyma nhwʼn cymryd y tir i gyd sydd iʼr dwyrain o Gilead.
Disgynyddion Gad
11Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, aʼr holl ffordd i Salca yn y dwyrain: 12Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Ianai a Shaffat yn Bashan. 13Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Iacan, Sïa, ac Eber. 14Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws. 15Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan. 16Roedden nhwʼn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron iʼr pen draw pellaf. 17Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel.
Y llwythau wnaeth setlo iʼr dwyrain oʼr Iorddonen
18Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da. 19Dyma nhwʼn ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab. 20Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechuʼr Hagriaid a phawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo. 21Yna dyma nhwʼn cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion. 22Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn oʼr gelynion eu lladd. Buon nhwʼn byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud.
23Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon. 24Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw: Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafiâ, a Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog.
Caethgludoʼr llwythau oedd yn byw iʼr dwyrain oʼr Iorddonen
25Ond dyma nhwʼn troiʼu cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wediʼu dinistrio oʼu blaenau). 26Felly dyma Duw yn annog Pwl, sef Tiglath-pileser, brenin Asyria, i fynd â phobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse iʼr gaethglud. Dyma feʼn mynd â nhw i Halach, Habor, Hara ac at afon Gosan. Ac maen nhw yno hyd heddiw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015