1Molwch yr ARGLWYDD.
Fy enaid, mola'r ARGLWYDD.
2Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw,
canaf fawl i'm Duw tra byddaf.
3Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion,
mewn unrhyw un na all waredu;
4bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,
a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.
5Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,
ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,
6creawdwr nefoedd a daear a'r môr,
a'r cyfan sydd ynddynt.
Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
7ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig;
y mae'n rhoi bara i'r newynog.
Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;
8y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion,
ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng;
y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.
9Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid,
ac yn cynnal y weddw a'r amddifad;
y mae'n difetha ffordd y drygionus.
10Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu hyd byth,
a'th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau.
Molwch yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004