Mae Cwrs y Beibl bellach wedi ei drosi i fformat digidol sy’n addas i’w ddilyn ar-lein gan grwpiau bach neu o fewn sefyllfa deuluol. Mae’r adnoddau digidol wedi’u llunio fel eu bod yn hwylus i’w rhannu, felly fe fydd yn bosib i chi redeg Cwrs y Beibl hyd at Awst 31ain 2020 am bris o £9.99 yn unig!
Rydym yn awgrymu y dylid defnyddio’r adnoddau law yn llaw ag app cyfathrebu drwy fideo er mwyn i chi allu sgwrsio am yr hyn y byddwch yn ei wylio gyda’ch gilydd. Mae’r pecyn yn cynnwys:
Wedi gosod y tri adnodd yn eich basged, byddwn yn rhoi disgownt wrth i chi gadarnhau eich pryniant wrth y ddesg talu er mwyn i chi gael eich pecyn am £9.99 (gyda chostau pacio a phostio yn ychwanegol).
Cwrs wyth sesiwn i’ch cynorthwyo i archwilio’r llyfr mwyaf poblogaidd o ran gwerthiant ar draws y byd.
Dyma gyfle gwych i archwilio stori fawr y Beibl a hynny o gyfforddusrwydd eich cartref eich hun. Oherwydd y sefyllfa sydd wedi codi oherwydd y coronafirws, rydym wedi addasu Cwrs y Beibl a’i drosi i fformat digidol sy’n addas i’w ddilyn ar-lein gan grwpiau bach neu o fewn sefyllfa deuluol. Am gyfnod cyfyngedig, gallwch gynnal Cwrs y Beibl ar gost o £9.99 yn unig (gyda chost pacio a phostio yn ychwanegol)!
Mae’r Beibl yn lyfr swmpus a chymhleth i’w ddarllen, ac i lawer mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Efallai eich bod wedi bod yn rhan o grŵp Astudiaeth ac am fagu hyder er mwyn i chi allu astudio’r Beibl ar eich pen eich hun, neu efallai eich bod angen help i gysylltu’r darnau rydych wedi’u darllen. Mae Cwrs y Beibl yn adnodd gwych ar gyfer y rhai sy’n gyfarwydd â’r Beibl, neu’r rhai sydd ond yn dechrau ei ddarllen.
Mae Cwrs y Beibl yn eich helpu i weld sut mae gwahanol lyfrau’r Beibl yn ffurfio un stori fawr. Gan ddefnyddio rhediad stori unigryw, bydd Cwrs y Beibl yn dangos i chi sut mae’r prif ddigwyddiadau, y llyfrau a’r cymeriadau yn ffitio gyda’i gilydd. Bydd y dysgu trwy’r fideo, yr arweiniad i’r cwrs, a’r darlleniadau dyddiol yn eich cynorthwyo i fagu hyder wrth i chi ddarllen y Beibl eich hun.
Mae hefyd yn ddilyniant i unrhyw un sydd eisoes wedi dilyn cwrs cyflwyno megis Alffa ac Archwilio Cristnogaeth. Wedi’i saernio’n dda, yn hawdd ei arwain, ac yn ddeniadol iawn, mae Cwrs y Beibl yn adnodd gwych ar gyfer eglwysi, ac rwy’n ei argymell yn llwyr!
Mae Cwrs y Beibl y ffordd wych o ddeall holl stori’r Beibl, ac mae o fewn cyrraedd pawb. Ffordd wych o gychwyn ar eich taith.
Mae sesiwn arferol yn cynnwys:
Mae Cwrs y Beibl yn gwrs delfrydol ar gyfer hyfforddi un i un, grwpiau bach a chyfarfodydd mwy. Gellir ei ddefnyddio unrhyw le, mewn cartrefi, mannau gwaith neu garchardai. Gellir ei ddefnyddio hefyd gyda grwpiau ieuenctid hŷn, grwpiau myfyrwyr ac mewn eglwysi/capeli. Mae’r cwrs o fewn cyrraedd pobl sy’n newydd i Gristnogaeth, ac yn ddelfrydol fel dilyniant i gyrsiau megis Alffa neu ar gyfer Cristnogion aeddfed sydd am ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r Beibl.
Datblygwyd Cwrs y Beibl yn wreiddiol gan Dr Andrew Ollerton (awdur, darlithydd a gweinidog) a hynny er mwyn cynorthwyo pobl yng Nghernyw oedd yn newydd i’r ffydd Gristnogol ac i’r Beibl. Ers hynny mae miloedd o bobl ar draws y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill wedi mynychu ac wedi mwynhau Cwrs y Beibl. Mae wedi cael ei ddefnyddio gan amrywiol enwadau a rhwydweithiau.