Skip to main content

Y stori ddi-ddiwedd: Actau 28.17–31 (9 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 28

Efallai y byddem yn meddwl bod diwedd Actau braidd yn rhyfedd. Mae’r bennod olaf yn gorffen stori’r llongddrylliad ac yn mynd â Paul i Rufain. Mae’n dal i fod o dan warchodaeth Rufeinig, ond nid yn llym iawn;  cael ei gyfyngu i’w gartref yn hytrach na’i garcharu. Mae ef yn gallu parhau a’i weinidogaeth efengylaidd, cwrdd ag arweinwyr Iddewig lleol a siarad â nhw am Iesu. Mae rhai yn credu, ond nid oes tröedigaeth dorfol. Mewn chwythiad proffwydol olaf, dywed Paul wrthyn nhw, ‘Felly deallwch hyn – mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!’ (adnod 28).

Y llinell olaf un yw ef yn ‘siarad gyda hyfdra a rhyddid’ am Iesu. Mae traddodiad Cristnogol cynnar dibynadwy yn dweud wrthym cafodd Paul ei ddienyddio yn ystod erledigaeth Nero ar Gristnogion, rhywle rhwng 64 OC a 68 OC. Mae Luc, serch hynny, yn dewis peidio â dweud hyn wrthym. Mae’n bosib bod ef ei hun wedi marw cyn Paul. Os felly mae’n syndod nad oes unrhyw un arall wedi ‘gorffen’ Actau ar ei ran gyda hanes marwolaeth Paul. Efallai ei fod yn fwy tebygol bod Actau yn gorffen fel yr oedd Luc eisiau: nid gyda merthyrdod arwrol, ond gyda phregethu amyneddgar a phledio achos Crist. Wedi’r cyfan, er bod llawer o Actau yn ymwneud â Paul, nid stori Paul mohono mewn gwirionedd ond stori’r Eglwys gynnar.  

Byddai ei orffen gyda’i farwolaeth yn rhoi diweddglo taclus. Ond dechrau stori sy’n parhau hyd heddiw yw’r Actau. Fe’n gelwir ni hefyd i siarad â Christ gyda ‘hyfdra a rhyddid’. Mae Actau 29 amdanom ni.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am y straeon am ffydd a dewrder rwyt yn eu rhoi inni yn y llyfr hwn. Helpa fi i gymryd fy lle a chwarae fy rhan yn stori dy Eglwys, ac i dystio i Crist fy ngwaredwr.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible