Skip to main content

‘Wyt ti wir yn fy ngharu i?’: Ioan 21.15–19 (30 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 21.15–19

Efallai bod pob un ohonom ni’n gwybod sut beth yw bradychu a brifo pobl sy’n annwyl i ni, i ryw raddau. Gallai fod mor syml â methu a chyflawni’r hyn maent yn disgwyl ohonom; neu fe allai fod yn rhywbeth gwaeth, fel troi ein cefnau arnynt pan maent wir angen ein help.

Mae hanes Pedr yn gwadu Iesu (Ioan 18) yn y categori hwn. Mae wedi dangos cryn ddewrder wrth ddilyn Iesu i dŷ’r Archoffeiriaid, ond mae ei ddewrder yn ei adael i lawr. Mae’n gwadu Iesu deirgwaith; mae’r ceiliog yn canu ar ôl y trydydd gwadiad, yn unol â phroffwydoliaeth Iesu, yn dorcalonnus o ingol.

Felly hefyd ei faddeuant a’i adferiad. Mae Iesu’n gofyn iddo deirgwaith a yw’n ei garu, a phob tro yn ei anrhydeddu trwy ymddiried ynddo gyda gwaith i’w wneud. Mae’n adeg arwyddocâol ddofn i Pedr, ac i ni. Rydym hefyd yn cael ein bradychu gan y rhai sy’n annwyl i ni, ond gallwn ni faddau ac ymddiried eto. Ond bradychwyr ydym ni hefyd; a gallwn gael maddeuant ac adferiad i ddefnyddioldeb o hyd. Mewn perthnasoedd dynol ni ddylem fyth danbrisio cost maddeuant, na cheisio gorfodi ei gyflymder, ac ni ddylem ganiatáu iddo esgusodi na galluogi ymddygiad dinistriol – ond maddeuant yw’r hyn y mae credinwyr yn ei wneud.

Yn ein perthynas â Duw, fel Pedr, gallem wadu Iesu oherwydd ein bod yn rhy ofnus i fod yn gysylltiedig ag ef; neu, yn fwy tebygol, oherwydd ein bod yn rhy hunanol neu’n ddiog. Mae’r stori hon y mae Ioan yn ei hadrodd am faddeuant yn un y mae angen i ni oll ei chlywed. Fe’n gwahoddir oll i ailddatgan ein cariad at Iesu eto, fel y gallwn gael ein hadfer i wasanaeth defnyddiol ac anrhydeddus.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch y gallaf gael maddeuant ac adferiad trwy dy ras a charedigrwydd cariadus. Helpa fi i faddau gan fy mod i wedi derbyn maddeuant.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible