Skip to main content

Wedi’i buro gan dân: Sechareia 13 (25 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 13

Soniodd adnod gyntaf Sechareia 13 am ffynnon lanhau a fyddai’n cael gwared ag amhuredd o dŷ Dafydd. Mae’r adnod olaf yn dangos dull puro arall inni – nid trwy ddŵr ond trwy dân.

Pan fydd metalau gwerthfawr yn cael eu puro, neu eu ‘mireinio’, gan dân, cant eu cynhesu nes bod yr amhureddau ynddynt naill ai’n dianc fel nwyon neu’n codi i’r wyneb fel gweddillion y gellir eu sgimio i ffwrdd. Nid Sechareia yw’r unig broffwyd o’r Hen Destament i ddefnyddio’r ddelwedd hon o fireinio: mae Eseia 48, Jeremeia 9, Daniel 12 a Malachi 3 i gyd yn cyfeirio ato.

Os ydym yn meddwl amdanom ein hunain yn mynd trwy’r broses hon, rhaid cyfaddef nad yw’n ddisgwyliad dymunol. Mae’r proffwydi hyn yn ei osod yng nghyd-destun barn Duw, ond mae llyfr Job yn dweud wrthym y gall dioddefaint ddod atom heb unrhyw fai arnom ni. Yn y Testament Newydd, hefyd, mae Pedr yn sôn am erledigaeth fel ‘mynd drwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rywbeth annisgwyl yn digwydd i chi’ (1 Pedr 4.12).

Pan fyddwn yn mynd trwy drafferth neu boen am ba bynnag reswm, mae’n aml yn anodd gweld da a allai ddeillio ohono. Weithiau, ni allwn deimlo presenoldeb Duw yn ein dioddefaint, ac ni allwn weld beth allai ei bwrpas fod. Ond mae’r ysgrifenwyr Beiblaidd yn y ddau Destament yn cytuno â Sechareia, pan fo Duw ar waith ynom, hyd yn oed trwy’r amseroedd anoddaf, gellir ymddiried ynddo i’n harwain allan a gwneud ein perthynas ag ef yn agosach nag erioed o’r blaen.

Gallwn gymryd anogaeth o ffydd Job yng nghanol ei boen:

Dw i'n edrych i'r dwyrain, a dydy e ddim yno;

i'r gorllewin, ond dw i'n dal ddim yn ei weld.

Edrych i'r gogledd, a methu dod o hyd iddo;

i'r de, ond does dim sôn amdano.

Ond mae e'n gwybod popeth amdana i;

wedi iddo fy mhrofi, bydda i'n dod allan fel aur pur.

 

Job 23.8–10

Gweddi

Gweddi

Dad Dduw, helpa ni i roi ein hymddiriedaeth lawn ynot ti, hyd yn oed pan rydym yn mynd ‘drwy’r ffwrn dân’. Diolch mai dy bwrpas bob amser yw ein puro a dod â ni’n agosach atat ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible