Skip to main content

Wedi ein codi i fywyd newydd (go iawn): Rhufeiniaid 6.1–14 (15 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 6

Mae Paul wedi meddwl yn ddwfn am ystyr marwolaeth Crist. Mae marwolaeth yn ddiweddglo; mae’n diddymu popeth am fywyd person. Os cawn ein bedyddio i undeb â Christ a ‘rhannu’ yn y farwolaeth honno (adnod 4), mae ein hen fywyd wedi diflannu, ac ‘os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod’ (adnod 7). Ond rydym yn rhannu yn ei atgyfodiad hefyd; ac nid adfywiad yn unig yw atgyfodiad, ble mae person yn byw'r un math o fywyd unwaith eto. Codwyd Crist i fath newydd o fywyd, ‘mewn cymdeithas gyda Duw’ – ac oherwydd ein bod yn rhannu yn yr atgyfodiad hwnnw, felly mae i ninnau hefyd. Nid ydym yn gwasanaethu pechod mwyach, ond cyfiawnder.

Felly mae neges Paul yn heriol iawn. Mewn rhai cylchoedd eglwysig mae pwyslais mawr ar dröedigaeth – gwneud penderfyniad dros Grist a chael maddeuant am ein pechod wrth inni gael ein croeshoelio gydag ef. Ond mae Paul yn gwneud i ni ofyn nid yn unig beth rydym ni'n troi oddi wrtho, ond at beth ydyn ni'n troi ato. Bywyd y crediniwr sy’n ei boeni, ac mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith. Siaradodd Iesu am gael ein ‘geni eto’: ond dim ond am gyfran fach o’n bywydau rydym yn fabanod. Yn ein bywydau fel oedolion rydym yn cyflawni pethau ac yn dewis y da neu’r drwg. Felly mae Paul yn ein hatgoffa: ‘Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!’ (adnod 14).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gofleidio’n llawn ym mywyd atgyfodedig Crist; gad imi fyw bywyd newydd ynddo ef sy’n llawn, yn gyfoethog ac yn rhydd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible