Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Yn yr ychydig adnodau cyntaf pennod 22 mae Ioan yn ysgrifennu am ‘afon o ddŵr bywiol’ yn llifo o orsedd Duw, i lawr stryd y ddinas, ac o ‘goed y bywyd’ ar y naill ochr i’r afon.
Ni ddylem feddwl am hyn fel darn o realaeth ffotograffig broffwydol. Ar gyfer yr afon, mae Ioan yn tynnu ar ddelweddau o’r Hen Destament, yn enwedig Eseciel 47.1-12, lle mae afon Duw yn puro’r holl dir ac yn gwneud y Môr Marw yn ffres; mae adleisiau hefyd o eiriau Iesu am ‘ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo’ yn Ioan 7.38. Mewn dinas Rufeinig roedd y gwter i lawr canol y stryd yn cario carthion; yn ninas Duw, serch hynny, mae popeth budr yn cael ei wneud yn lân. Mae gan weledigaeth Eseciel goed, lluosog, bob ochr i’r afon; yn Ioan, dim ond un sydd, coeden y bywyd, y clywn amdani gyntaf yn Eden.
Felly mae’r weledigaeth hon yn cynrychioli cau cylch. Yn stori Genesis, mae bodau dynol yn cael eu diarddel o’u gardd. Ond ar ddiwedd y Beibl maent yn cael eu hadfer. Ond nid yr un ardd ydyw, fel pe gallem fynd yn ôl i gyflwr o ddiniweidrwydd plentyn: dinas ardd Eden yw hi, lle mae gwareiddiad dynol a ‘gorsedd Duw a'r Oen’ yn ganolog iddi. Rydym yn dal i aros i weld sut bydd yn edrych; ond fel mae Ioan yn gweddïo ar ddiwedd ei lyfr: ‘Tyrd, Arglwydd Iesu!’
Duw, helpa fi i fyw yn y gobaith o dy ddyfodol gogoneddus. Glanha fy nghalon o bopeth na ddylai fod yno, a gad imi fyw’r bywyd helaeth a addawodd Iesu.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.