Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Rhufeiniaid yw llythyr mwyaf 'diwinyddol’ Paul. Nid oedd wedi ymweld â’r eglwys yno eto, er ei fod yn adnabod sawl aelod. Mae’n ymddangos bod y llythyr wedi’i ysgrifennu i amlinellu’r hyn y mae’n ei gredu fel ffordd o gyflwyno ei hun. Profwyd ei fod yn ffynnon o ddoethineb ysbrydol trwy gydol hanes yr Eglwys.
Mae’n dechrau gyda chanmoliaeth rasol iddynt; byddant yn helpu ei gilydd, meddai, ‘Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau’ (adnod 12). Yn adnodau 16-17 mae’n nodi ei argyhoeddiad mwyaf sylfaenol: fe’n hachubir trwy ffydd yng Nghrist a dim arall.
Fel arwydd na fydd hwn yn ddarn hollol gyffyrddus i’w ddarllen, mae’n symud ar unwaith i wadu drygioni dynol. Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw bod gweithredoedd anghywir yn cael eu hystyried o ganlyniad i rywbeth dyfnach: dieithrio oddi wrth Dduw. Mae’n mynd yn ôl at straeon y greadigaeth yn Genesis, gan fyfyrio ar y cytgord toredig yno (adnod 20). Wrth wraidd pechadurusrwydd dynol mae eilunaddoliaeth, rhoi pethau eraill gerbron Duw (adnod 23).
Felly mae efengyl Paul yn radical iawn. Nid yw ffydd yng Nghrist yn delio â phechodau unigol, ond â phechadurusrwydd – y cyflwr sy’n arwain at bechod.
Nid yw’n arbennig o ddoeth nac o gymorth i Gristnogion i ennill enw da am wadu pethau. Mae’n ymddangos bod Paul yn gwneud hynny yn nwy bennod gyntaf Rhufeiniaid, ond mae’n gwneud pwynt ehangach: rydym yn pechu oherwydd ein bod ni’n bechaduriaid sydd wedi gogwyddo ein bywydau oddi wrth Dduw. Mae ffydd yng Nghrist yn ein gwneud ni’n iawn gydag ef.
Duw, dangos imi lle rydw i’n rhoi pethau eraill yn dy le. Ymdrinia â’r gwreiddiau pechod ynof; gad imi ddilyn Crist yn unig.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl