Skip to main content

Siâr ddwbl: 2 Brenhinoedd 2 (20 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 2

Ar ddiwedd gweinidogaeth Elias rydym yn gweld ymrwymiad dwfn rhwng gwas a meistr: ‘wna i ddim dy adael di’. Mae Eliseus yn gofyn am ‘siâr ddwbl o dy ysbryd di’ (adnod 9). Beth mae’n ei olygu? Mae Deuteronomium 21.17 yn esbonio y dylai’r mab cyntaf-anedig etifeddu siâr ddwbl o etifeddiaeth y tad. Mae hyn yn ein helpu i ddeall ystyr cais Eliseus. Roedd yn gofyn am fod yn olynydd neu’n etifedd Elias, yr un a fyddai’n cyflawni gwaith y proffwyd.

Beth fydd eich etifeddiaeth? Rydym i gyd yn gadael nifer o etifeddiaethau. Mae’r mwyaf amlwg yn faterol, ond rydym hefyd yn gadael etifeddiaethau perthynol ac ysbrydol. Beth fydd eich etifeddiaeth ysbrydol? Beth gawsoch chi a beth fyddwch chi’n ei drosglwyddo? Efallai eich bod yn cynaeafu’r hyn a blannodd rhywun arall neu’n plannu’r hyn y bydd eraill yn ei gynaeafu yn y dyfodol? Mae pob un ohonom yn chwarae rhan yn stori ras Duw sy’n mynd rhagddi, ond nid ydym bob amser yn cael gweld ffrwyth ein llafur. Meddyliwch am y rhai a’ch helpodd i dyfu’n ysbrydol yn y gorffennol a diolchwch am y rôl wnaethant chwarae yn eich bywyd. Cymerwch gysur a byddwch yn ffyddlon – efallai na fyddwch byth yn gwybod arwyddocâd yr hyn rydych yn ei wneud heddiw!

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch i ti am y rhai a heuodd yn ffyddlon yn y gorffennol ac a adawodd etifeddiaeth ysbrydol sy’n dal i’n bendithio heddiw. Rho gyfleoedd i mi adeiladu ar y sylfeini a osodwyd ganddynt.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible