Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae gwahaniaeth mawr rhwng damcaniaeth ac arfer. Mae’r Corinthiaid wedi darllen geiriau ysbrydoledig Paul am bŵer Duw yn cael ei weithredu mewn credinwyr yn y bennod flaenorol, ond yna mae Paul yn eu synnu: mae’n dweud yn blwmp ac yn blaen eu bod yn ymddwyn fel plant, ac yn gweithredu fel pe bai ganddynt ddim Ysbryd o gwbl.
Mae rhaniad yn yr eglwys ynglŷn ag awdurdod. Mae rhai yn dilyn Paul, ac eraill yn dilyn Apolos, siaradwr pwerus ac effeithiol a gyflwynwyd yn Actau 18.24–28. Nid oes unrhyw arwydd mai Apolos oedd y tu ôl i’r rhaniadau hyn, ac mae’n ymddangos mai anaeddfedrwydd ysbrydol y Corinthiaid yn unig oedd ar fai. Yn lle canolbwyntio ar Grist, fe wnaethant gysylltu eu hunain a gweinidogion Crist. Mae Paul yn eu rhybuddio eu bod mewn perygl o ‘ddinistrio teml Duw’, yr eglwys, os ydynt yn parhau i ymddwyn fel y maent (adnodau 16–17).
Mae’r un temtasiwn yno heddiw i Gristnogion o gael eu swyno gan siaradwyr grymus neu arweinwyr carismatig. Mae yna bobl ddawnus y dylem eu parchu a’u gwerthfawrogi, ond mae’n bosibl cael cwlt o arweinyddiaeth nad yw’n helpu a gall hyd yn oed fod yn beryglus. Os edrychwn ar ein harweinwyr i ddweud wrthym beth i’w feddwl neu beth i’w wneud, rydym mewn perygl o hollti eglwysi a hyd yn oed syrthio i bechod difrifol – pan fyddwn yn ‘eilunaddoli’ ein harwyr, rydym yn gwneud eilunod ohonynt yn llythrennol.
Mae Paul yn ein hatgoffa o’r fraint o berthyn i Grist: mae ein perthynas ag ef yn uniongyrchol ac yn bersonol. Ond mae hynny’n gyfrifoldeb hefyd: rhaid i ni beidio â gadael i unrhyw un arall ddod rhyngom (adnodau 22-23).
Duw, diolch am arweinwyr ac athrawon all fy mendithio a bendithio’r eglwys. Paid byth â gadael imi anghofio eu bod nhw yn weision i ti hefyd; a gad imi beidio byth a cholli fy ffocws ar Grist.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl