Skip to main content

Rhybudd o hanes: Marc 11.12–19 (Chwefror 8, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Marc 11.12–19

Mae melltith y ffigysbren a glanhau'r deml yn gysylltiedig nid yn unig mewn amser, ond yn yr hyn y maent yn ei symboleiddio. Mae eisiau bwyd ar Iesu, ond does dim ffrwythau i'w fwyta oherwydd nid dyma'r tymor iawn. Mae'n mynd i mewn i'r deml, lle mae newyn ysbrydol, a does dim maeth yno - dim ond marchnad sy'n cael ei rhedeg am elw. Mae'r tymor yn anghywir. Mae troi'r byrddau a gwywo'r goeden yn cyfateb i'w gilydd.

Mae 'glanhau'r deml' yn aml yn cael ei bortreadu fel enghraifft o ddicter Iesu. Mae'n colli ei dymer, yn gyfiawn felly. Ond yn Efengyl Marc does dim awgrym o hyn. Mae'n debycach i weithred; does dim emosiwn ynddo o gwbl. Barn yn unig ydyw: mae'r deml yn methu yn ei phwrpas, ac mae angen ei diwygio neu ddod i ben. Pan gymerodd y Rhufeiniaid Jerwsalem yn 70 OC, daeth y diwedd hwnnw wrth i'r deml gael ei dinistrio.

Mae'r stori'n un sobreiddiol iawn. Mae'n siarad â ni am ein pwrpas ein hunain. Mae Paul yn dweud wrth yr eglwys Gorinthaidd, ‘Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda'ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna?’ (I Corinthiaid 3.16). Yn nes ymlaen mae'n siarad ag unigolion ac yn dweud, ‘Ydych chi ddim yn sylweddoli fod eich corff chi'n deml i'r Ysbryd Glân?' (6.19).

Os methwn yn ein pwrpas, efallai y byddwn yn wynebu barn. Efallai y bydd ein bywydau neu ein heglwysi yn cael eu glanhau'n boenus. Efallai y cawn ein galw i edifeirwch. Os na fyddwn yn gwrando ar yr alwad, efallai byddem yn canfod ein hunain yn ddiwerth i Dduw.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am dy ras a thrugaredd tuag ataf. Helpa fi i wynebu'r hyn sydd o'i le yn fy mywyd, a dy glywed di'n fy ngalw i edifeirwch.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible