Skip to main content

Peidiwch â beirniadu: Rhufeiniaid 14.1–23 (23 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 14

Yn y bennod hon mae Paul yn siarad â chredinwyr o gefndiroedd Iddewig sy’n dal eisiau cadw’r deddfau defodol Iddewig, a chredinwyr o’r Cenhedloedd sydd ddim. Mae ei gyngor ynghylch bwyta llysiau yn gysylltiedig â chig a allai fod wedi’i werthu yn y marchnadoedd ar ôl cael ei offrymu’n gyntaf i dduw paganaidd. Mae Paul yn annog y Cristnogion Rhufeinig i barchu cydwybodau ei gilydd: ‘Dylai pawb fod yn hollol siŵr o'i safbwynt’ (adnod 5). Yr hyn sy’n bwysig yw eu bod yn ei wneud i Dduw.

Mae Paul yn dechrau trwy ddweud wrth ei ddarllenwyr am edrych i fyny, yn hytrach nag edrych o’u cwmpas. Duw sy’n dod gyntaf, ac ni ddylent feirniadu ei gilydd neu sgorio pwyntiau. Ond, meddai, mae edrych o’i gwmpas ar eu cyd-gredinwyr yn bwysig hefyd. Efallai bod ganddynt yr hawl i wneud rhywbeth, ond os yw arfer yr hawl honno’n mynd i beri gofid neu niweidio rhywun arall, ni ddylen nhw ei wneud (adnod 13).

Weithiau coleddir argyhoeddiadau dwfn, ac angerdd yn gryf yng nghyd-destun eglwys a thu hwnt. Mae cyngor Paul yn heriol iawn. Heddiw, mae’n anoddach nag erioed i anghytuno’n dda yn gyhoeddus oherwydd natur wenwynig y cyfryngau cymdeithasol. Mae eglwysi yn ei chael hi’n anodd llywio anghydweld ynghylch athrawiaeth ac ymarfer. Mae rhai credinwyr yn benderfynol o ddal i gadw at draddodiad; mae eraill yn rhwystredig oherwydd arafwch newid. Nid yw Paul yn cynnig ateb hud yma: mae’n dweud y dylai’r ddwy ochr ganolbwyntio ar Dduw, ac iddynt fod yn hael ac yn garedig at ei gilydd. Os gwnawn hynny, gallwn fod yn esiampl i’r byd.

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos i mi sut y gallaf dy blesio orau yn yr hyn rwy’n ei wneud a’i ddweud. Helpa fi i fod yn raslon, a sylweddoli efallai dy fod wedi rhoi gwahanol lwybrau i eraill dy ddilyn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible