Skip to main content

Pawb dros Iesu: 2 Corinthiaid 11.16–33 (Mawrth 12, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Corinthiaid

Weithiau mae anniddigrwydd Paul gyda’r rhai a feirniadodd ei weinidogaeth yn berwi drosodd. Dyma un o'r amseroedd hynny - mae'n rhwystredig bod y Corinthiaid yn cael eu harwain ar gyfeiliorn gan siaradwyr dylanwadol sydd ddim yn gafael yng nghalon yr efengyl (adnod 4). Ond yn lle mynd yn erbyn eu dadleuon yn unig, mae'n gwneud y cyfan yn bersonol iawn. Mae'n cynnig ei ymddygiad a'i gymeriad ei hun fel tystiolaeth dros wirionedd yr hyn y mae'n ei ddweud. Mae'n tynnu sylw nad yw erioed wedi gwneud arian allan ohonynt (adnod 7) a'i fod wedi dioddef llawer mwy na neb arall dros yr achos. Ni fydd yn brolio am bethau sy'n dangos pa mor bwerus ydyw, ond am ei wendidau, oherwydd dyma'r hyn sy'n dangos pŵer Duw (adnod 30). Mae yna rywbeth ychydig yn hurt hyd yn oed am ddianc rhag erlidwyr mewn basged (adnod 33).

Heddiw, efallai y byddwn yn dweud nad siarad yn unig oedd Paul; ei fod wedi byw’r bywyd. Unwaith eto, fe'n gwahoddir i feddwl am yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi'n wirioneddol am bobl. Mewn eglwysi, mae'n hawdd syrthio i'r fagl o gael argraff ormodol gan yr arweinydd carismatig neu'r siaradwr dawnus. Ond mae enghraifft Paul yn wahanol: mae'n awgrymu mai maen prawf arall rydym yn barnu pobl drwyddo yw faint maent wedi'i ddioddef a'i aberthu. Mewn enghraifft arall o sut mae'r efengyl yn troi gwerthoedd dynol wyneb i waered, nid faint rydym wedi'i ennill sy'n cyfrif, ond faint rydym wedi'i golli. Ac fel y dywedodd Iesu, ‘bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen’.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weld fel rwyt ti'n gweld, nid fel mae'r byd yn ei weld. A helpa fi i fod yn barod i aberthu, ac i golli popeth er dy fwyn di.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible