Skip to main content

Mae’r hyn a wnawn yn bwysig o hyd: Rhufeiniaid 2.1–11 (11 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 2

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod Paul yn cyhuddo’r eglwys Rufeinig gyfan o fod yn bechaduriaid drygionus. Nid dyna’n union y mae’n ei olygu. Mae’n rhybuddio’r credinwyr Iddewig hyn rhag dibynnu ar eu Hiddewiaeth i fod yn iawn gyda Duw, a meddwl nad oes ots sut y maen nhw’n byw. Ei thema yma yw bod Iddewon a Chenhedloedd ar dir gwastad.

Y Cenhedloedd yw’r mwyafrif o Gristnogion erbyn hyn, ond gallwn ni weld o hyd sut mae geiriau Paul yn berthnasol. Bendithir unrhyw un sydd wedi dod o hyd i ffydd yng Nghrist ac sy’n perthyn i gymuned Gristnogol. Nid dyna ddiwedd y stori, serch hynny, ond y dechrau. Rydym yn cael ein galw i fyw bywydau sanctaidd a chyfiawn. Rydym yn cael ein cymodi â Duw trwy ffydd (1.17), ond rydym yn cael ein barnu, meddai Paul, yn ôl yr hyn rydym yn ei wneud (adnodau 8-10).

Felly mae yna fath o densiwn wedi’i ymgorffori yn y bywyd Cristnogol. Gallwn orffwys yn ddiogel yn ein hiachawdwriaeth ac yn y gwybod bod Duw yn ein caru. Ond ar yr un pryd rhaid i ni beidio ‘cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar’ (adnod 4); mae Duw yn ceisio ein harwain i edifarhau. 

Efallai bod rhai yn cael eu barnu yn y bywyd hwn, wrth inni wynebu canlyniadau drygioni. Nid ydym yn gwybod sut bydd beirniadaeth ar ôl marwolaeth yn edrych. Mae darllen y bydd Duw 'yn talu nôl i bob un beth mae'n ei haeddu’ (adnod 6) yr un mor eglur â ‘Ond dydy'r rhai sy'n perthyn i'r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi!’ (8.1). Mae Paul yn galw ar y Cristnogion Rhufeinig – ac yn ein galw ni – i fyw bywydau gwyliadwrus a bwriadol dda. 

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am fy ngharu i, a diolch y gallaf orffwys yn fy iachawdwriaeth. Helpa fi i fyw yn dda, yn benderfynol o wneud daioni ac osgoi pechod.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible