Skip to main content

Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma!: Job 11 (Chwefror 12, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Job 11

Mae Job wedi galaru am ei ddioddefaint, protestio ei ddiniweidrwydd a chwyno i Dduw, ond nawr mae Soffar o Naamâ  (un o ffrindiau Job) wedi cael digon. Mae'n credu bod geiriau Job yn wag ac yn anonest, yn gyfystyr â gwatwar Duw. ‘Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?’ gwaeddai (adnod 3), cyn bwrw ymlaen i wneud hynny ei hun.

Cyn belled ag y mae Soffar yn y cwestiwn, nid oes y fath beth â dioddefaint anhaeddiannol felly mae'n rhaid bod Job wedi gwneud rhywbeth drygionus. Mae Soffar yn sicr pe bai Duw yn ateb Job, y byddai'n rhoi cerydd llym. Os rhywbeth, mae cosb Job yn ymddangos yn ‘llai nag wyt ti'n ei haeddu!’ (adnod 6). Pe bai Job ond yn rhoi ei falchder i un ochr ac yn edifarhau, byddai'r dioddefaint yn dod i ben a byddai'n byw bywyd gwych unwaith eto! Mae datganiad Soffar y bydd Job yn anghofio ei drallod fel cymaint o ddŵr o dan y bont (adnod 16) yn ymddangos yn arbennig o ddigalon wrth ystyried popeth y mae Job wedi'i golli.

Mae Job yn gwybod bod y sefyllfa'n llawer mwy cymhleth. Nid yw’n euog, ac eto mae’n dioddef. Mae'n chwalu'r hyn yr oedd yn ei gredu o'r blaen am Dduw, felly mae'n ei holi nid allan o haerllugrwydd ond oherwydd ei fod eisiau ei ddeall yn iawn.

Cyn i ni farnu Soffar, efallai y dylem archwilio calonnau ein hunain. Yn wahanol i Soffar, rydym yn gwybod beth sy'n digwydd y tu ôl i lenni'r stori hon, ond yn ein bywydau ein hunain mae'n annhebygol y cawn ni'r math hwn o fewnwelediad. Sut ydym yn ymateb i ffrindiau sydd mewn trallod? Ydym weithiau yn feirniadol ac yn brin o dosturi?

Os yw ein ffrind wedi brifo, gallwn weddïo am gysur ac iachâd. Os ydynt yn cael trafferth gweld bod Duw yn eu caru, gallwn weddïo fel Paul yn Effesiaid 3 y byddant yn gwybod ‘ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia’ (adnod 18). Gallwn ymuno â nhw i ofyn i Dduw am ddealltwriaeth. Mae'n well cyfaddef nad oes gennym yr holl atebion na chamddarlunio Duw fel y bydd Soffar yn darganfod yn ddiweddarach!

Gweddi

Gweddi

Duw, mae'n ddrwg gen i am yr amseroedd pan rydw i wedi bod yn oeraidd ac yn feirniadol. Dangosa i mi lle mae fy meddwl amdanat ti'n anghywir a dyfnha fy nealltwriaeth. Dysg i mi ddod ochr yn ochr â ffrindiau sy'n dioddef mewn ffordd sy'n cynrychioli dy gariad, dy dosturi a'r gobaith sydd ganddynt yn Iesu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible