Skip to main content

Mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant: Marc 7.24–30 (Chwefror 4, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Marc 7.24–30

Mae hon yn stori ryfedd, oherwydd mae'n ymddangos ei bod yn dangos Iesu'n trin rhywun sy'n dod ato mewn gwir angen mewn ffordd annifyr.

Mae wedi mynd i ardal Tyrus i gael rhywfaint o lonydd, ond ni allai ‘gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach ' (adnod 24); mae dynes o blith y Cenhedloedd yn ‘pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch’. Mae Iesu'n ei hateb mewn llais Iddew uniongred anhyblyg: plant Israel sy'n dod gyntaf, a'r 'cŵn' o’r Cenhedloedd yn ail. Ond mae'r ddynes hon, sydd wedi ymrwymo'n angerddol i'w merch, yn gwrthod cymryd na yn ateb, ac mae Iesu'n anrhydeddu ei ffydd.

Mae'n debyg y dylem ganolbwyntio ar ganlyniad y cyfarfyddiad yn hytrach na mynd yn rhy gaeth i’r ddeialog. Mae eu sgwrs yn tynnu sylw at natur radical gweinidogaeth Iesu. Yn fersiwn Mathew o'r hanes (15.24) dywed iddo gael ei anfon ‘dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll’. Ond er mai canolbwynt ei weinidogaeth yw ei gyd-Iddewon, mae’r Cenhedloedd hefyd yn cael eu caru gan Dduw a gallent gael eu croesawu i'w deyrnas.

Yma, fel mewn rhannau eraill o'r Efengylau, mae Iesu'n tynnu cylch cariad Duw yn ehangach. Nid oes unrhyw un wedi'i eithrio ar sail hil na rhyw na chenedligrwydd.

Mae'n hawdd esgus cefnogi'r syniad hwn. Ond mae defnydd Iesu o'r gair 'cŵn' i ddisgrifio’r Cenhedloedd wedi ei gynllunio i gydnabod y rhagfarnau sydd mor ddwfn fel nad ydym hyd yn oed yn sylweddoli eu bod gennym ni. Mae deall ein hunain – sydd weithiau'n boenus - yn rhan o ddisgyblaeth Gristnogol.

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos i mi lle rydw i wedi eithrio pobl y byddai Iesu wedi'u cynnwys. Chwala muriau fy rhagfarnau, a dangos imi sut i garu pobl nad wyf yn eu hoffi nac yn ymddiried ynddynt nac yn cydymdeimlo â nhw.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible