Skip to main content

Hapus yw’r rhai sy’n credu: Ioan 20.24–29 (29 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Ioan 20.24–29

Straeon Ioan am Iesu’n ymddangos wedi iddo atgyfodi yw’r rhai mwyaf byw, cofiadwy a phersonol o holl awduron yr Efengylau. Un ohonynt yn y bennod hon yw ei gyfarfyddiad â Tomos – ac ers hynny, yn cael ei alw, yn annheg braidd, yn Tomos yr amheuwr.

Fodd bynnag, yr adnod ar ddiwedd y stori fach hon sy’n dweud wrthym beth yw’r gwir ystyr. ‘Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.” (adnod 29).

Y bobl hyn yw pawb nad ydynt erioed wedi cael cyfle i’w weld yn y cnawd ac sy’n gorfod ymddiried yn nhystiolaeth y rhai sydd wedi ei weld. Hynny yw, ni ydyn nhw. Beth bynnag yw ein profiadau o bresenoldeb Duw – ac mae’r rhain yn aml yn ddwfn a phwerus iawn – nid ydym wedi gallu cyffwrdd â’r marciau hoelion yn nwylo Iesu na theimlo’r clwyf yn ei ochr. Cerddwn trwy ffydd, nid trwy weld. Ond dywed Iesu fod credinwyr fel ni wedi ein ‘bendithio’, hyd yn oed y tu hwnt i’r rhai sydd â thystiolaeth o’u llygaid eu hunain.

Efallai y byddwn ni’n meddwl bod hyn yn rhyfedd – wedi’r cyfan, byddai’n braf cael prawf o’r hyn rydym yn ei gredu. Ond gall ffydd fod yn llawer mwy pwerus na’r golwg. Rydym yn cael ein cymell i weithredu gan deimladau a straeon, nid trwy dystiolaeth fathemategol. Mae Hebreaid 11.1 yn dweud ‘Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld’ – ac mae’n ei ddilyn gyda rhestr o lwyddiannau rhyfeddol pobl sy’n llawn ffydd. Y credinwyr sydd wedi’i bendithio.

Gweddi

Gweddi

Duw, pan nad wyf yn ei chael hi’n hawdd credu, bendithia fi â rhodd ffydd. Gad imi wybod fod dy bresenoldeb gyda mi a dy bŵer yn fy mywyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible