Skip to main content

Gwrando ar fy nghwyn chwerw!: Job 10 (Chwefror 11, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Job 10

Mae Job 10 yn gwneud darllen diddorol ochr yn ochr â Salm 139. Mae tebygrwydd trawiadol yn yr hyn y mae'r ysgrifenwyr yn ei ddweud am y Duw sy'n eu 'gwau gyda'i gilydd' yng nghroth eu mamau - mae ef yn hollbwerus, i hollwybodus ac yn bresennol ym mhobman - ond gwrthgyferbyniad llwyr yn y ffordd maen nhw'n ymateb. Lle mae'r salmydd yn llawn parchedig ofn, mae Job - yn ei ddioddefaint - yn tywallt cwyn chwerw.

Mae’r salmydd yn teimlo ei fod wedi’i amddiffyn: ‘Rwyt ti yna o mlaen i a'r tu ôl i mi, mae dy law di arna i i'm hamddiffyn’ (adnod 5). Waeth ble mae'n mynd, mae Ysbryd a phresenoldeb Duw gydag ef (adnod 7) ac mae llaw Duw yn ymddangos yn dyner - mae'n arwain ac yn gafael (adnod 10). Mewn cyferbyniad, mae Job yn teimlo ei fod yn cael ei hela, gan ddychmygu Duw fel llew wrth fynd ar drywydd di-baid (adnodau 16–17). Mae'n ymddangos bod Duw yn ei wylio, nid i amddiffyn, ond i gasglu tystiolaeth ddamniol yn ei erbyn (adnod 14).

Mae’r salmydd yn gwadd yn eiddgar, ‘Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon!’ (Adnod 23a) tra bo Job yn gweiddi, ‘Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia! Gad lonydd i mi… ’(adnod 20). Mae Job yn disgwyl ebargofiant yn ‘nhir y gwyll a'r fagddu’ (adnod 22), ond fel y mae’r salmydd yn nodi, ‘nid yw tywyllwch yn dywyll i ti.’ (adnod 12).

Yng nghanol dioddefaint, gall gwirionedd a oedd gynt yn galonogol am Dduw swnio’n wag. Gall clywed bod gan Dduw gynllun ar gyfer eich bywyd a fydd yn digwydd yn ôl ei amseriad swnio fel ystrydeb ddiystyr pan fyddwch chi mewn poen. Fel Job, efallai y byddwch chi'n dechrau cwestiynu cariad a daioni Duw. Efallai i Satan ymwthio ymlaen yn ei sedd, yn sicr bod Job ar fin melltithio Duw…

Ond pan mae Satan yn ceisio troi’r gwir a’n drysu ni am Dduw, y peth gorau i’w wneud yw dilyn esiampl Job. Ydy, mae'n gwneud cwyn chwerw, ond mae'n apelio’n uniongyrchol at Dduw, ffynhonnell fwyaf gwirionedd. Gallwn wneud yr un peth, gan wybod iddo anfon ei fab i beidio â chondemnio ond i achub.

Gweddi

Gweddi

Dduw, diolch y gallaf siarad â thi, hyd yn oed yn chwerwder fy enaid. Diolch dy fod yn clywed fy ngweddïau hyd yn oed pan fydda i'n brifo ac yn ddryslyd. Arglwydd, amddiffyn fi rhag ymdrechion Satan i'm camarwain, a thynna fi atat fel yr unig ffynhonnell cysur a gwirionedd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol, Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible