Skip to main content

Gwnewch y peth iawn: Genesis 13.1–13 (12 Ionawr 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 13

Mae cymeriadau Abraham a Lot yn amlwg iawn yn y stori fer hon. Maent ill dau yn ffigurau sylweddol, gyda nifer fawr o dda byw ac aelwydydd mawr. Pan fydd cystadleuaeth am adnoddau yn arwain at wrthdaro, Abraham sy'n awgrymu penderfyniad heddychlon, ac sy'n rhoi mantais i Lot o ddewis i ble y bydd yn mynd. Nid yw'n ceisio ei fantais ei hun ar draul cystadleuydd ¬– enghraifft ddisglair i drafodwyr heddiw. Mae Lot yn dewis yn wael. Efallai fod y gwair wedi bod yn wyrddach ym mhorfeydd gwyrddlas y gwastadeddau sydd wedi'u dyfrio'n dda, ond roedd y cwmni'n waeth o lawer: aeth i fyw ymhlith pobl Sodom a Gomora, gyda chanlyniadau trasig, tra aeth Abraham i wlad addawedig Canaan.

Nid yw'n wirioneddol bosibl ceisio llunio 'hanes amgen' o'r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai Lot wedi dewis yn wahanol. Ond mae'r stori yn ein hatgoffa bod gweithredoedd anghywir yn aml iawn yn arwain at ganlyniadau gwael. Roedd Lot o'r farn ei fod yn gweld mantais iddo'i hun dros Abraham ac fe’i cymerodd. Arweiniodd ei ddiffyg haelioni at ei gwymp.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio â cheisio fy mantais fy hun ar draul eraill. Helpa fi i ddilyn esiampl Crist, a wacaodd ei hun a chymryd ffurf gwas.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible