Skip to main content

Gweld o dan yr wyneb: 2 Corinthiaid 10.1–12 (Mawrth 11, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Corinthiaid 10

Ym mhennod 10, mae'r tôn yn newid. O ysgrifennu emyn hardd i haelioni, daw Paul yn fwy ymosodol. Mae'n wynebu gwrthwynebiad gan bobl nad ydynt yn credu ei fod yn ffigwr trawiadol iawn (adnod 10) ac sy'n cwestiynu ei awdurdod - a thrwy hynny yn tanseilio'r neges a bregethai.

Ym mha gylch bynnag - gwleidyddiaeth, busnes, yr Eglwys, y teulu - mae perygl mawr o ganiatáu i ni ein hunain gael ein siglo gormod gan bersonoliaethau carismatig, pwerus. Rydym i gyd yn adnabod pobl sy'n gallu argyhoeddi eraill y dylent fod wrth y llyw, oherwydd eu bod yn hyderus ac yn ymddangos yn alluog i gyflawni pethau. Yn hytrach na gwrando'n ofalus ar yr hyn maent yn ei ddweud a'u barnu yn ôl eu gorffennol, rydym yn ymddiried yn eu gwerthusiad ohonynt eu hunain. Mae Paul yn eithaf deifiol: ‘Y gwir ydy, wrth fesur yn ôl eu llathen eu hunain a chymharu eu hunain â'i gilydd, maen nhw'n dangos mor ddwl ydyn nhw go iawn' (adnod 12).

Yn lle hynny, meddai, ‘Dim y bobl sy'n canmol eu hunain sy'n cael eu derbyn ganddo, ond y bobl mae'r Arglwydd ei hun yn eu canmol’ (adnod 18).

Felly gelwir ar yr Eglwys i fynd yn erbyn graen y byd. Ni ddylem dybio mai pobl sy'n dod ar draws fel arweinwyr naturiol yw'r rhai sydd â'r atebion i'n problemau mewn gwirionedd. Efallai y bydd yr atebion yn dod o rywle arall - gan y rhai sy'n cael eu hanwybyddu oherwydd nad ydynt yn ffitio i'n stereoteipiau neu oherwydd nad yw eu lleisiau mor uchel. Rhan o ddisgyblaeth yw dysgu gwrando ar bobl ar yr ymylon.

Gweddi

Gweddi

Duw, maddau imi os ydw i wedi mynd gyda’r dorf, a heb wrando ar y rhai a oedd yn ymddangos yn rhy ddibwys i fod â rhywbeth i'w ddweud. Helpa fi i weld o dan yr wyneb, ac edrych ar eraill gyda dy lygaid.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible