Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Dywed yr Efengylau wrthym fod Iesu yn aml yn mynd ar ei ben ei hun i weddïo, ond yn y bennod hon cawn gyfle prin i glywed un o’i weddïau. Mae’n weddi agos-atoch dros y bobl sy’n ei garu – ymgasglodd y disgyblion ar gyfer ei bryd Pasg olaf – ond hefyd i ni, ‘bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw’ (adnod 20).
Mae gweddi Iesu drosom yn eang. Mae am inni brofi llawenydd, gogoniant, sancteiddrwydd, gwirionedd a chariad, ond ei brif bryderon yw y dylem gael ein cadw’n agos ato, ein hamddiffyn rhag drygioni, ac y dylem aros mewn undod gyda’n cyd-gredinwyr.
Mae’r rhain yn geisiadau mawr – yn enwedig pan fyddwn yn myfyrio ar y pethau nad yw’n gofyn amdanynt. Yn fwyaf penodol, mae’n pwysleisio nad yw’n gweddïo ar i Dduw fynd a ni ‘allan o’r byd’ (adnod 15). Nid yw’n disgwyl i’n hundod a’n hamddiffyn ddod drwy fynd i grwpiau a thynnu allan o fod yn rhan o’r byd. Nid yw chwaith yn gofyn inni gael lle breintiedig yng nghanol ein cymdeithas, gan reoli pethau, gosod y safonau ar gyfer ymddygiad pobl eraill. Yn hytrach, rydym am barhau i chwarae rhan mewn byd a fydd weithiau’n ein casáu ni.
Pan edrychwn yn ofalus ar y weddi hon, a phan edrychwn yn fanwl ac yn onest arnom ein hunain, efallai y byddem yn meddwl tybed sut y gellid o bosib ei hateb! Mae’n anodd iawn byw’n gyson mewn llawenydd, gogoniant, sancteiddrwydd, gwirionedd, cariad ac undod perffaith, wedi’ch amddiffyn rhag drygioni, tra hefyd yn gwrthod y demtasiwn i encilio o’r byd. Efallai mai dyna pam mae Paul yn annog yr Effesiaid, ‘Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd’ (Effesiaid 6.18). Mae’n hyfryd gwybod bod Iesu wedi gweddïo drosom (ac yn dal i wneud hynny – Rhufeiniaid 8.34), ond mae angen i ni ymuno’n gyson yn ei weddi ar ran ein gilydd.
Arglwydd Iesu, gweddïwn dros bob un o’n cyd-gredinwyr ledled y byd ac yn ein cymunedau lleol ein hunain. Helpa ni i gefnogi ein gilydd i gynnal ein hundod, ein ffydd, ein sancteiddrwydd a’n cariad. Dangos i ni sut i wneud hyn mewn ffyrdd ymarferol iawn.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.