Skip to main content

Gras uwchlaw popeth: 2 Corinthiaid 9.6–15 (Mawrth 10, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Corinthiaid 9.6–15

Yn y bennod hon mae Paul yn parhau i annog Cristnogion Corinth i fod yn hael wrth roi. Mae ei eiriau'n ysbrydoledig, ond mae angen eu darllen yn ofalus. Pan ddywed ‘os dych chi'n hau yn hael, cewch gynhaeaf mawr’ (adnod 6) nid yw'n dweud bod yna ryw fath o berthynas angenrheidiol rhwng yr hyn rydym yn ei roi a'r hyn rydym yn ei gael yn ôl gan Dduw, fel y dywed rhai ‘pregethwyr ffyniant’. Os ydym yn rhoi arian, dylem ddisgwyl bod yn dlotach. Ond dylai rhoi arian yn hael lifo o agwedd o haelioni oes gyfan, sy'n arwain at berthnasoedd wedi'u trawsnewid ac yn dyst pwerus i ras Duw.

Mae geiriau Paul yn heriol iawn. Mae rhai eglwysi heddiw, yn enwedig rhai efengylaidd, yn pwysleisio gwerth rhoi degfed ran o'n hincwm i ffwrdd. Ond nid yw Paul yn cychwyn o’r fan honno. Mae'n dweud, ‘Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi’ (adnod 7).

Gras, i Paul, yw popeth. Rydym wedi cael rhoddion anghyffredin; os ydym wir yn caru Duw, byddwn yn gwneud y peth iawn oherwydd ein bod ni eisiau, nid oherwydd ein bod ni'n teimlo y dylem wneud hynny. Fel y dywedodd Sant Awstin yn drawiadol: 'Carwch, a gwnewch yr hyn a fynnwch.'

Gweddi

Gweddi

Duw, dysga i mi fod yn hael gyda fy arian, fy amser a'm rhoddion, nid oherwydd fy mod i'n poeni am gael fy marnu ond oherwydd fy mod i'n gwybod cymaint a roddwyd i mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible