Skip to main content

Genesis 18.1–33 (Ionawr 17 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Genesis 18.1–33

Mae'r bennod hon yn cychwyn stori llawn drama. Yn eistedd wrth fynedfa ei babell, mae Abraham yn derbyn ymwelwyr angylaidd, y rhagwelir weithiau eu bod yn cynrychioli’r Drindod, fel yn yr eicon enwog a baentiwyd gan Andrei Rublev yn y 15fed ganrif. Mae un - 'yr Arglwydd' - yn dweud y bydd ganddo fe a Sara fab; mae Sara yn chwerthin, gan fod Abraham wedi chwerthin o'r blaen (17.17). Ai chwerthin mewn anghrediniaeth oedd hi, neu’r ymdeimlad o hurtrwydd tuag at y syniad? Mae'n ddigon posib y byddwn ni'n chwerthin am sut mae Duw yn troi ein bydoedd wyneb i waered.

Pan fydd y 'dynion' yn gadael gwersyll Abraham maen nhw'n anelu am Sodom, ac mae deialog anghyffredin yn dilyn. Bydd Duw yn dinistrio Sodom a Gomorra oherwydd eu drygioni, meddai, ond mae Abraham yn dychryn. Ni ddylai pobl dda cael eu heffeithio oherwydd pechodau pobl ddrwg. Mae'n bargeinio gyda Duw ac - mae'n debyg, beth bynnag - yn ei guro: os nad oes ond deg o bobl gyfiawn yn Sodom, ni fydd yn dinistrio'r ddinas.

Mae'r adnodau hyn yn gyfoethog iawn o ran ystyr. Maent yn gosod safon foesegol ynghylch amddiffyn y diniwed. Maent yn siarad am effeithiolrwydd gweddi. Maent yn rhoi enghraifft i ni o dosturi.

Mewn oes pan mae gwleidyddiaeth - tramor a domestig – wedi ei bolareiddio ac mae'n hawdd wfftio  grwpiau cyfan o bobl neu genhedloedd cyfan fel 'y gelyn', mae safiad dewr Abraham yn ein hatgoffa bod Duw yn gofalu am unigolion. Fe ddylem ninnau hefyd fod yn dadlau dros amddiffyn y diniwed.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am ddewrder a thosturi Abraham. Dangos i mi lle y gallaf innau hefyd sefyll dros y rhai sy'n agored i niwed.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible