Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae Paul, yn y bennod hon, yn parhau â’i ddadl ein bod ni’n cael ein gwneud yn iawn gyda Duw trwy gredu yng Nghrist. Ond byddai’r rhan fwyaf o Iddewon, a’r holl Genhedloedd, mewn penbleth llwyr ynghylch hyn. Byddai’r Iddewon angen yr Ysgrythurau wedi’i egluro iddynt. Byddai angen i’r Cenhedloedd ddechrau hyd yn oed ymhellach yn ôl. O hyn daw’r ymgyrch genhadol arweiniodd at Gristnogaeth yn dod yn ffydd fyd-eang.
Mae Rhufeiniaid 10.14–15 yn darparu rhesymeg efengylu. ‘Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw'n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw'n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? A phwy sy'n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon?’.
Weithiau disgrifir Ewrop heddiw fel cyfandir ‘ôl-Gristnogol’. Mae’r newidiadau cymdeithasol enfawr sy’n cael eu gyrru gan economeg a thechnoleg wedi arwain at gwympiadau sydyn yn yr eglwys a rhagdybiaeth eang bod Cristnogaeth yn dirywio. Mae’r heriau sy’n wynebu’r Eglwys heddiw mewn rhai ffyrdd yn fwy na’r rhai y wynebodd yn y ganrif gyntaf. Yna, roedd yr efengyl yn newydd a chyffrous. Nawr, mae pobl yn tybio eu bod nhw’n gwybod beth yw hi, hyd yn oed os nad ydynt. Ond mae rhesymeg efengylu'r un peth: mae negeswyr (pob un ohonom) yn cyhoeddi’r neges fel y gall pobl ei ‘chlywed’ (ei deall a chael ei symud ganddi), ei chredu ac ymateb iddi. Mae Cristnogion heddiw yn union ble’r oedd Paul 2,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi eu galw i bregethu Crist i fyd sydd ei angen gymaint ag erioed.
Duw, helpa fi i fod yn dyst dewr ac effeithiol dros yr Iesu. Gwna fi'r math o berson a fydd yn denu pobl ato.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl