Skip to main content

Cryfder a gwendid: 2 Corinthiaid 13.1–13 (Mawrth 14, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Corinthiaid 13

Ar ddiwedd llythyr Paul at y Corinthiaid, mae'n cymedroli ffyrnigrwydd ei dôn tuag atynt gyda mynegiadau o ofal cariadus. Mae'n gweddïo y byddant yn 'berffaith' (adnod 9) ac yn eu bendithio (adnod 13). Mae wedi bod yn galed gyda nhw, meddai, fel y byddant yn dysgu ffyrdd gwell. Mae’n dychwelyd at ei thema gwendid ymddangosiadol a chryfder go iawn, mae'n cymryd esiampl Crist ei hun, a groeshoeliwyd mewn gwendid ond sy'n byw trwy nerth Duw (adnod 4). Mae edrych i lawr ar rywun sy'n ymddangos yn wan - siaradwr diargraff, efallai â chyflwr corfforol annymunol, wedi'i guro, ei gam-drin a'i garcharu – fel edrych i lawr ar Grist ei hun.

Mae'n amhosibl gorddweud pa mor bwysig fu'r gwelediad hwn yn hanes yr Eglwys - ac felly'r byd. Yn nydd Paul, pŵer ac enw da oedd popeth. Ond pe bai cariad a doethineb mwyaf Duw yn cael eu gweld trwy Grist wedi ei groeshoelio, byddai'r gwerthoedd hynny'n cael eu troi wyneb i waered. Yn sydyn, y dioddefwyr - y 'gwan' - oedd fwyaf gwerthfawr. Nid yw'r Eglwys wedi gweld hyn bob amser, ac ar wahanol adegau mae wedi bod yn farus am rym. Ond mae'n dal yn wir bod yr hyn rydym yn ei gredu heddiw ynglŷn â sut y dylid trin pobl - yn deg, gyda gofal iechyd safonol, bwyd a lloches - yn deillio o'r efengyl.

Mewn cyfnod pan mae 'ennill' - mewn gwleidyddiaeth, busnes neu hyd yn oed trwy ddadleuon ar gyfryngau cymdeithasol - yn cael ei ystyried fel popeth, mae geiriau Paul yn ein hatgoffa bod gan Dduw lawer mwy o ddiddordeb mewn collwyr.

Gweddi

Gweddi

Duw, rho imi dy galon dros y rhai y mae'r byd yn eu hesgeuluso neu eu dirmygu. Helpa fi i weld nad oes neb yn ddi-werth, ac i fod yn sianel dy ras i'r byd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible