Skip to main content

Byw’n dda o ddydd i ddydd: 1 Corinthiaid 7.17–24 (Chwefror 20, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 7.17–24

Mae'r bennod hon weithiau'n cael ei chloddio am ei dysgeidiaeth am briodas. Ond camwch yn ôl o'r manylion, a'r hyn sy'n drawiadol yw ei hagwedd synnwyr cyffredin nid yn unig tuag at briodas, ond at fyw'n ffyddlon yn y byd fel y mae. Efallai bod Paul yn delio â phobl a oedd yn teimlo’n gyffrous iawn am eu ffydd newydd. Efallai eu bod wedi meddwl bod Crist yn dychwelyd yn fuan, ac y dylent roi'r gorau i fywyd arferol i baratoi ar gyfer hynny. Na, meddai: daliwch ymlaen fel yr ydych chi, a byddwch yn ffyddlon yn eich bywyd bob dydd. Yn yr un modd ag enwaediad: does dim ots a ydych chi'n Iddew neu'n Genedl-ddyn with eich genedigaeth; dilyn Crist yw'r hyn sy'n cyfrif. Mae ei gyngor am gaethwasiaeth yn ddiddorol iawn; efallai bod rhai caethweision Cristnogol yn dadlau y dylid eu rhyddhau yn awtomatig. Dywed Paul, os gallant fod yn rhydd y dylent, ond yr hyn sy'n cyfrif mewn gwirionedd yw eu rhyddid yng Nghrist.

Mewn rhai ffyrdd mae neges y bennod hon yn debyg i lyfr y Pregethwr, sydd hefyd yn annog ei ddarllenwyr i ganolbwyntio ar fyw'n dda o ddydd i ddydd. Y rhan fwyaf o'r amser, ym mhethau cyffredin bywyd rydym yn gwasanaethu Duw. Felly, meddai Paul, ‘Dylai pob un ohonoch chi dderbyn y sefyllfa mae'r Arglwydd wedi'ch gosod chi ynddi pan alwodd Duw chi i gredu’ (adnod 17).

Weithiau mae ein byd heddiw yn ymddangos yn obsesiwn â newid, twf a chynnydd. Gall y pethau hyn beidio â bod yn iach os ydynt yn tynnu ein sylw oddi wrth fyw'n ffyddlon lle rydym ni. Mae Paul yn dweud wrthym am ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am y rhoddion bob dydd rwyt wedi'u rhoi i mi. Helpa fi i weld gwerth yr hyn sydd gen i, a pheidio â cheisio boddhad y tu allan i dy ewyllys i mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible