Skip to main content

Bugeiliaid a defaid: Sechareia 11 (23 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 11

Mae Sechareia yn parhau i ddod â neges am arweinwyr a’u pobl, gan ddefnyddio trosiad Beiblaidd cyffredin bugeiliaid a defaid – ac mae ei eiriau’n feirniadaeth ddinistriol, heb lygedyn o obaith. Mae’n siarad fel rhywun sydd wedi’i ddadrithio’n llwyr a’i ffieiddio ag ymddygiad y ddau grŵp, ond y bugeiliaid yw’r rhai sy’n derbyn y felltith fwyaf brawychus, yn adnod 17.

Prif gyfrifoldeb bugail yw gofalu am ei ddefaid, fel tywysydd, darparwr, iachawr ac amddiffynnwr. Felly dyma’r ffordd y mae Duw yn disgwyl i bob arweinydd, un ai mewn crefydd, llywodraeth, busnes neu deulu, fynegi eu hawdurdod. Pan mae Iesu’n nodi ei hun fel y ‘bugail da [sy’n] fodlon marw dros y defaid’, mae’n modelu’r safon uchel hon, mewn cyferbyniad â’r ‘gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod’ (Ioan 10.11-12). Ond mae’r bugeiliaid a ddisgrifir gan Sechareia yn waeth na llwfrgi; maent yn ecsbloetio ac yn niweidio’r creaduriaid sydd dan eu gofal yn fwriadol.

Mae’r ‘arian’ yn adnod 13 yn ein hatgoffa, wrth gwrs, o’r pris a dalwyd i Jwdas Iscariot am fradychu Iesu, y ‘bugail da’. Dyma oedd yr iawndal oedd yn ddyledus, yn ôl Exodus 21.43, am anafu caethwas – swm sarhaus i brisio proffwyd neu, yn wir, mab Duw.

Mae llawer o ddarnau o’r Beibl sy’n siarad am farn hefyd yn cynnwys awgrym o brynedigaeth, ond nid yw hwn. Yn aml mae’n iawn edrych am y positif, aros yn optimistaidd, ceisio maethu unrhyw wreichionen o ddaioni pan fydd yn ymddangos. Ar adegau eraill ni allwn anwybyddu gwirionedd sefyllfa wael iawn. Pan nad oes gan arweinwyr unrhyw fwriad i ofalu am y bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, ein hunig opsiwn yw galarnad, gyda gweddi y bydd eu pŵer yn cael ei dynnu oddi arnynt.

Gweddi

Gweddi

Bugail-Dduw, gweddïwn dros ein harweinwyr. Cryfha'r rhai sy’n gwneud eu gorau i ofalu amdanom, ond gwared ni o’r rhai y mae eu gweithredoedd yn niweidiol.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible