Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.
Mae hon yn stori hynod deimladwy. Mae'n portreadu dyn sydd wedi colli ei annibyniaeth gyda'i olwg, sydd yn amlwg wedi colli unrhyw deulu a oedd ganddo (fel arall byddent wedi gofalu amdano ac ni fyddai wedi gorfod cardota), ac sy’n ysu am ateb i'w broblemau nes ei fod yn troseddu yn erbyn pob rheol ymarweddiad, er dychryn ei gymdogion.
Nid oes gan Iesu ddiddordeb mewn pobl gwrtais yn unig. Mae'n cydnabod angen y dyn ac yn ei alw ato. Ond yn hytrach na chymryd arno ei fod yn gwybod beth oedd orau iddo, mae'n rhoi urddas iddo wrth ofyn cwestiwn iddo: ‘Beth ga i wneud i ti?' (adnod 51).
Mae yna lawer o bobl doredig ac anghenus nad ydynt yn cynnig eu hunain yn hawdd ar gyfer ymgysylltu â'r efengyl. Nid ydynt yn ffitio i'n categorïau trefnus na diwinyddiaeth daclus. Gallant fod yn gythruddol ac yn aflonyddol - ond mae angen Iesu arnynt. Ac yma, mae Iesu'n enghraifft o'r hyn mae pob un ohonom ni ei eisiau mewn ffrind neu weinidog: yn hytrach na rhywun yn tybio ei fod yn amlwg beth sy'n dda i ni, rydym am iddynt wrando, heb ragfarnu'r hyn maent yn meddwl rydym ni yn mynd i'w ddweud.
Mae gwrando dwfn yn arwain at ddealltwriaeth ddofn, sy'n arwain at weinidogaeth ddofn.
Duw, diolch dy fod di'n gwrando ar y bobl sydd wedi eu cleisio a'u torri. Helpa fi i ddeall fel rwyf yn cael fy neall, ac i agor fy nghalon i'r bobl letchwith, anghenus sydd angen ffrind.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.