Skip to main content

Arweinydd dibynadwy: Sechareia 10 (22 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Sechareia 10

Os yw bodau dynol yn dyheu am heddwch a diogelwch, mae angen arweiniad dibynadwy arnynt hefyd i ddod â nhw trwy amseroedd caled. Mae’r dyfodol yn llyfr caeedig i ni i gyd. Hyd yn oed os gwnawn gynlluniau ar gyfer ein ffordd ymlaen, gyda llwybr clir i’w ddilyn, ni allwn fod â hyder y bydd unrhyw ran ohono’n dod yn realiti. Mae blwyddyn 2020 wedi profi y gellir datgymalu prif flociau adeiladu ein bywyd – y bondiau rhwng teulu a ffrindiau, gwaith, masnach, teithio – yn rhwydd gan fygythiad annisgwyl.

Pwy ydych chi’n ymddiried ynddo mewn sefyllfa fel hon? I lawer o bobl, mae hyder mewn awdurdodau wedi cael ei erydu’n ddifrifol: daw cyngor gwrthgyferbyniol gan weinidogion y llywodraeth, allfeydd newyddion, ysgrifenwyr barn a’r cyfryngau cymdeithasol. Efallai bod yna wirionedd allan yna, ond mae’n anodd ei adnabod trwy sŵn cymaint o leisiau.

Pan fydd y dyfodol yn ansicr ac yn frawychus, mae pobl yn edrych am sicrwydd. Ond dim ond cynyddu ansicrwydd y mae canllawiau annelwig ac annibynadwy fel y rhai a restrir yn adnod 2 – proffwydi ffug a gwrwaid ysbrydol sy’n cynnig celwyddau sy’n gysur yn arwynebol. Mae eu dilynwyr yn dechrau ‘crwydro fel defaid, heb fugail i'w hamddiffyn’. Mae ymddiriedaeth yn cilio, ac ofn cynyddol yn cymryd ei le.

Fe sylwch fod y cynghorwyr y mae Sechareia yn siarad amdanynt yn amhersonol iawn, yn llefaru i wacter. Mae pobl ddiobaith yn cydio yn eu geiriau, ond yn cael eu tywys mewn cylchoedd. Mewn cyferbyniad, pan mae Iesu’n disgrifio’i hun fel y ‘bugail da’ yn Ioan 10, mae’n canolbwyntio ar y berthynas bersonol rhyngddo ef a’i braidd: ‘Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau… ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais’ (Ioan 10.3-4).

Dywed Sechareia wrthym fod Duw eisiau cryfhau ei bobl (adnodau 6, 12) fel y gallant ymladd yn hyderus (adnodau 5, 7). Gall hyn ddigwydd dim ond os ydynt, a ninnau, yn troi ato fel ein bugail.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Iesu, dy fod yn adnabod pob un ohonom yn ôl ein henwau a dy fod yn arweinydd dibynadwy. Rydym eisiau dy ddilyn yn agos, gyda hyder a chryfder.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Rheolwr Prosiect Golygyddol yn y tîm Cyhoeddi.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible