Skip to main content
Read this in English

Y Frenhines a Chymod

Author: Bible Society, 11 September 2022

Share this:

Mae darllen hanes ynys Iwerddon a thir mawr Prydain yn brofiad poenus, yn enwedig hanes yr Helyntion a ddigwyddodd rhwng y 1960au a’r 1990au. Bu farw mwy na 3,500 o bobl, 60 y cant ohonynt wedi’u lladd gan barafilwyr Weriniaethol oedd â’u bryd ar uno’r ynys wedi rhaniad 1922 pan enillodd y Weriniaeth ei hannibyniaeth.  

Byddai siarad am a gweithredu cymod yn anodd i unrhyw un yn sgil cymaint o dywallt gwaed, a bu i’r gwrthdaro gyffwrdd â’r Frenhines yn bersonol.  

Mae ei pharodrwydd i geisio cymod yn deillio nid yn unig o’i hymrwymiad dwfn i wasanaethu ei gwlad, ond hefyd o’i ffydd Gristnogol ddofn. Yn 1987 defnyddiodd ei neges Nadolig i dalu teyrnged i Gordon Wilson, un a ddywedodd yn gyhoeddus ei fod yn maddau i’r rhai oedd wedi lladd ei ferch yn Enniskillen ar Sul y Cofio: ‘Ffynhonnell ei gadernid ef, a chadernid ei wraig, a dewrder eu merch, oedd eu hargyhoeddiad Cristnogol,’ meddai. ‘Bydd pawb ohonom yn adleisio eu gweddi am i drasiedïau personol Enniskillen esgor ar gymod rhwng y cymunedau.’  

Pan aeth ar ymweliad swyddogol â’r Iwerddon yn 2011 ar wahoddiad yr Arlywydd Mary McAleese, hi oedd y person brenhinol cyntaf o’r Deyrnas Unedig, a hithau ar yr orsedd, i ymweld â’r De ers ymweliad ei thaid yn 1911. Yr oedd yn ddigwyddiad symbolaidd iawn. Yr oedd trais y Gweriniaethwyr wedi cyffwrdd â’i theulu yn 1979 pan lofruddiwyd ei chefnder, yr Arglwydd Louis Mountbatten ar ei gwch, ynghyd â dau fachgen ifanc yn eu harddegau, Nicholas Knatchbull a Paul Maxwell, a Doreen, Arglwyddes weddw Brabourn a oedd yn 83 mlwydd oed; dwy flynedd cyn hyn bu ymgais i ladd y Frenhines yn ystod ei hymweliad â  Shetland. 

Sut bynnag, ystyriwyd yr ymweliad â’r Iwerddon yn llwyddiant diplomyddol. Yn ystod ei thaith pedwar diwrnod bu i’r Frenhines ymweld â’r Ardd Goffa Genedlaethol a chymerodd ran mewn seremoni o flaen y Gofeb Ryfel Genedlaethol yn ogystal ag ymweld â sawl man o ddiddordeb diwylliannol. Mewn gwledd seremonïol yng Nghastell Dulyn, cafodd y gynulleidfa ei gwefreiddio pan gyflwynodd y frenhines gyfarchiad yn yr iaith Wyddeleg.  

Ond hanes cyffredin y ddwy genedl roddodd y fath arwyddocâd i’r digwyddiad. Yn ei hanerchiad yn y Castell – a hithau wedi’i chyfyngu gan wleidyddiaeth yr achlysur – llefarodd eiriau o iachâd, gan ddweud: ‘Y gwir trist a gofidus yw ein bod fel ynysoedd, ar hyd y blynyddoedd, wedi profi mwy na’n siâr o dor-calon, cythrwfl a cholled. 

‘Mae’r digwyddiadau hyn wedi’n cyffwrdd oll, llawer ohonom yn bersonol, ac maent yn etifeddiaeth boenus. Ni allwn fyth anghofio’r sawl fu farw neu a anafwyd a’u teuluoedd.’ 

A dywedodd, ‘Gyda’r gallu i edrych yn ôl ar hanes gallwn i gyd weld pethau y byddem wedi dymuno iddynt gael eu gwneud yn wahanol neu ddim o gwbl.’  

Aeth ymlaen i siarad am yr angen am heddwch a chyd-ddealltwriaeth, ac am ailadeiladu cyfeillgarwch: ‘mae llawer i’w wneud ar y cyd er mwyn adeiladu dyfodol ar gyfer plant ein plant; y math o ddyfodol y gallai ein neiniau a’n teidiau ond breuddwydio amdano’. 

Yn ei haraith Nadolig y flwyddyn honno, dywedodd, ‘Mae maddeuant wrth galon y ffydd Gristnogol. Gall iachau teuluoedd toredig, gall adfer cyfeillgarwch, a gall gymodi cymunedau rhanedig. Trwy faddeuant fe brofwn bŵer cariad Duw.’ 

Y flwyddyn ganlynol gwelwyd gweithred nodedig arall. Wrth ymweld â Gogledd Iwerddon, cyfarfu’r Frenhines Elizabeth â Martin McGuinness gan ysgwyd ei law. Yr oedd yn gyn-gadlywydd ym Myddin Weriniaethol Iwerddon (IRA), mudiad fyddai ar un adeg wedi ystyried lladd y Frenhines yn orchest fawr. Dywedir i McGuinness, a oedd bryd hynny’n Ddirprwy-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, ddweud wrthi fod eu cyfarfyddiad yn ‘arwydd rymus fod angen arweinyddiaeth wrth adeiladu heddwch’.  

Gall maddeuant a chymod gostio’n ddrud iawn, rhaid wrth stôr sylweddol o nerth ysbrydol. Cafodd y Frenhines hyd i'r stôr honno yn ei ffydd Gristnogol, ac yn esiampl Iesu.  


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible