Skip to main content
Read this in English

Cenhadaeth i Gymru

Author: Bible Society, 20 July 2017

Share this:

Rydym wedi bod yn gweithio gyda New Wine Cymru a ‘The Turning’ i gefnogi eu cenhadaeth i bobl Cymru. Aeth Rachel Rounds i gyfarfod y tîm ar strydoedd Caerdydd.

Fysech chi’n gallu mynd at ddieithryn a dweud: ‘Mae gen i ddau beth i ddweud wrthoch chi’n gyflym iawn: fod Duw yn eich caru ac mae ganddo gynllun gwych ar gyfer eich bywyd’?

I lawer ohonom, byddai’n dipyn o her ond dyma wnaeth miloedd o Gristnogion yng Nghymru’r mis diwethaf fel rhan o Genhadaeth i Gymru.

Rydym wedi bod yn cefnogi New Wine Cymru a ‘The Turning’ yn eu cenhadaeth drwy ddarparu fersiynau arbennig o Luc a’r Actau yn Gymraeg ac yn Saesneg i roi i ffwrdd i bobl. Ddydd Iau diwethaf aeth cwpl o’n tîm draw i Gaerdydd er mwyn cefnogi’r eglwysi yno ac i weld dros eu llygaid eu hunain be’n union ydi Cenhadaeth i Gymru.

Y gair ar y stryd

Fe wnaethom ni ymuno gyda grŵp o oddeutu hanner cant o bobl o sawl eglwys ledled y ddinas i gyd-addoli a gweddïo. Roedd sawl yn gweddïo am ddewrder a gwroldeb i sgwrsio am y Beibl yn rhadlon a gyda thrugaredd.

Wedyn fe aethon nhw ati i gyflwyno’u hunain i bobl y stryd gyda gwên a gofyn am enw’r person arall cyn dweud: ‘Mae Duw yn eich caru ac mae ganddo gynllun gwych ar gyfer eich bywyd.’

Ar y pwynt yma roedd pobl yn bell o gerdded i ffwrdd neu droi’n annifyr, roedd pobl yn gwrtais, yn gyfeillgar ac yn bwysicach fyth, gyda diddordeb yn yr hyn oedd yn cael ei ddweud.

Cafwyd sgyrsiau ystyrlon dros ben gyda phobl o bobl oed; anffyddwyr; rhai sydd ddim yn perthyn i eglwys; y rhai sy’n credu ond ddim yn mynd i’r eglwys; a’r rheiny sydd erioed wedi mynychu’r eglwys drwy eu bywyd. Roeddem ni yno am awr, ac yn yr awr honno roeddem ni’n dyst i un ferch ifanc wnaeth roi ei bywyd i Dduw yn y fan a’r lle yng nghanol y stryd.

Roedd Mike Price o City Church, Caerdydd eisoes wedi treulio diwrnod ar y stryd ac er ei fod wedi rhannu taflenni o’r blaen nid oedd erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn. “Mae’n eich ymestyn chi fel person, ond mae’n bwysig gwneud hyn. Fe wnes i weddïo gyda thri o bobl ddoe.’

Ymdrech unedig

Ledled Cymru roedd chwe canolfan yn cymryd rhan a oedd yn cynnwys cannoedd o Gristnogion. Dros wythnos yn unig fe weddïodd 3351 o bobl i dderbyn iachawdwriaeth Iesu. Roedden nhw’n derbyn copïau arbennig o Feiblau Luc a’r Actau, y llyfryn disgyblaeth, Chwech ac yn cael cynnig mynd am baned i ddarganfod mwy am Gristnogaeth.

Gweddïwch dros yr eglwysi yng Nghymru wrth iddyn nhw symud ymlaen gyda’u cenhadaeth ac y bydd geiriau Luc a’r Actau yn ysbrydoli ac yn deffro’r rheiny dderbyniodd copïau.

 


Mae Cenhadaeth i Gymru’n bartneriaeth rhwng ‘The Turning’, deffroad efengylaidd a ddechreuodd yn y DU ym Mai 2016 a New Wine Cymru, grwpiau o eglwysi rhyngenwadol sydd yn cenhadu ar y cyd yng Nghymru. 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible