Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio i annog, arfogi a chefnogi pobl yng Nghymru i ddarllen y Beibl ac i’w ddeall yn well. Rydym hefyd wrth gwrs yn cefnogi gwaith ehangach Cymdeithas y Beibl ar draws y byd. Gallwch gysylltu yma os hoffech wahodd aelod o’r tîm i wneud cyflwyniad yn eich capel/eglwys/sefydliad.
Dyma ychydig o fanylion am ein haelodau o staff:
Nerys Siddall yw Swyddog Addysg a Rheolwraig Canolfan Byd Mary Jones. Yn wreiddiol o Sir Fôn, mae hi bellach yn byw yn Llanuwchllyn. Cyn ymuno â Chymdeithas y Beibl, bu Nerys yn athrawes Addysg Grefyddol mewn ysgol uwchradd.
Mae’n angerddol dros rannu stori Mary Jones ag ymwelwyr i’r ganolfan, yn arbennig grwpiau ysgol yn ogystal â siarad â chymdeithasau amrywiol am yr effaith a’r dylanwad cafodd taith Mary ar eraill.
Mae ei thîm yn cynnwys Mel Hill ac Alyson Evans. Yn ystod y misoedd pan mae’r ganolfan ar agor maent yn cael eu cefnogi gan nifer o staff dwyieithog law yn llaw â gwirfoddolwyr lleol.
Cysylltwch â Nerys gydag unrhyw ymholiadau am ganolfan Byd Mary Jones ac i drefnu ymweliadau.
Mae Sarah yn gweithio i Gymdeithas y Beibl trwy ddatblygu gwaith Agor y Llyfr yn Ne-orllewin Cymru. Mae Sarah wrth ei bodd yn hyfforddi a dechrau timau newydd i ddod â’r Beibl yn fyw i blant ysgolion cynradd Cymru. Mae Sarah yn ddwyieithog, felly cysylltwch â hi os oes diddordeb gyda chi i ddechrau tîm newydd neu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â hyfforddiant.
Ym Mhontypridd mae Dai wedi ei leoli. Mae’n fardd, actor, cyfarwyddwr ac awdur, ac yn gweithio i Gymdeithas y Beibl fel Arbenigwr Datblygu Creadigol.
Mae’n teimlo’n gryf dros gyflwyno’r Ysgrythur mewn dulliau creadigol ac mae Cymdeithas y Beibl wedi elwa ar ei greadigrwydd mewn sawl ffordd ers i Dai ymuno ym mis Rhagfyr 2013. Efallai eich bod wedi dod ar draws rhai o’i fideos llafar drwy ‘Spoken Truth’. Daw Dai yn wreiddiol o Rydaman, ei iaith gyntaf yw Saesneg ac mae’n briod â Cath Woolridge o ‘Sound of Wales’.
Mae’n arbenigwr mewn hanes, ieithyddiaeth a chyfrifiadura. Mae’n cyfuno’r rhain yn ei waith i Gymdeithas y Beibl fel Cynghorydd Beibl Digidol a Chyfieithu. Mae’n angerddol dros sicrhau bod testunau Beibl ar gael yn hawdd i bobl yn eu hiaith eu hunain. Mae wedi rhoi cefnogaeth dechnegol i brosiect cyfieithu Beibl.net. Cynorthwyodd i ddatblygu ap Beibl. Mae Neil wrth ei fodd â hanes ac edrych mewn archifau. Mae’n ymchwilio ac yn canfod hen gyfieithiadau o’r Ysgrythur Gymraeg, ac yna’n canfod ffyrdd o sicrhau eu bod ar gael yn ddigidol yn ‘ap Beibl’ ac ar yr ap poblogaidd ‘YouVersion’. Yn ddiweddar mae wedi helpu sicrhau bod y ffeiliau sain ar gyfer fersiynau llafar o’r Beiblau Cymraeg ar gael ar-lein. Mae hefyd wedi cysylltu â Chymdeithas y Beibl yr Ariannin i sicrhau bod adnoddau Beibl Cymraeg yn hysbys ymhlith y gymuned Gymreig ym Mhatagonia.