Mae pobi danteithion siocled yn hwyl ac maen nhw'n flasus i'w bwyta. Dyma rai syniadau am ryseitiau:
https://www.bbcgoodfood.com/recipes/shredded-wheat-nests
https://www.bbc.co.uk/food/recipes/eastereggnests_93841
Cerdyn Pasg neu gerdyn diolch i gymydog neu weithiwr allweddol a threfnwch i fynd am dro i'w ddanfon os yn bosibl.
Dewch o hyd i fag o fferins jeli neu rywbeth tebyg, gorchuddiwch eich llygaid a dyfalwch y blas.
Cliw: Gallant fod yn gudd ac wedi'u berwi'n galed (wyau)
Cliw: Aeth merched â hwn i'r bedd (persawr)
Cliw: Anifeiliaid gyda chlustiau llipa (cwningod)
Cliw: Disgybl a redodd at y bedd (Pedr)
Cliw: Trît blasus rydym yn hoffi ei fwyta (Siocled)
Cliw: Fe'i defnyddir i orchuddio'r bedd (Carreg)
Cliw: Negeseuwyr o'r nefoedd (Angylion)
Cliw: Tymor pan mae blodau'n blodeuo (Gwanwyn)
Cliw: Dim yn farw mwyach (Byw)
Cliw: Bu iddo godi o’r marw (Iesu)
Gwnewch acrostig gyda'r gair siocled
Ymchwiliwch ar ffa coco a Masnach Deg.
Chwiliwch am gwmni siocled Masnach Deg yn agos atoch chi neu edrychwch am gynhyrchion masnach deg wrth siopa neu yn eich cwpwrdd a darganfod mwy am y bobl sy'n tyfu ac yn cyflenwi'r cynhyrchion hyn.