No themes applied yet
1Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; 2Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. 3Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. 4Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. 5Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: 6Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 7A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: 8Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.
9A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr. 10Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: 11Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear: 12Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 13A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 14A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. 15A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 16A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef. 17Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth. 18Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.
19Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di. 20Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt. 21A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd? 22Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i’w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt. 23Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef. 24A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29O ba herwydd, ie, yn ddi-nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33Am hynny yn ddi-oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
34Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.